Canllawiau Clirio Clir gan Aber

Sesiwn hyfforddi ar gyfer staff clirio Prifysgol Aberystwyth

Sesiwn hyfforddi ar gyfer staff clirio Prifysgol Aberystwyth

12 Awst 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynhyrchu ffilm animeiddiedig fer i helpu myfyrwyr Safon Uwch sy’n canfod nad oes ganddynt le mewn prifysgol pan gyhoeddir y canlyniadau ddydd Iau 18 Awst 2016.

Mae’r canllaw dwy-funud o hyd i’r broses glirio yn egluro’r camau sydd angen iddynt eu cymryd os nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol - a’r neges glir yw i beidio â mynd i banig.

Ar draws y Deyrnas Unedig y llynedd, fe ddaeth tua 64,000 o unigolion o hyd i le mewn prifysgol drwy’r broses glirio - gyda Phrifysgol Aberystwyth yn ateb dros fil o alwadau gan fyfyrwyr yn chwilio am gyngor yn ystod y cyfnod.

Yn ôl Rheolwr Cyswllt Ysgolion a Cholegau Prifysgol Aberystwyth, David Moyle, nid oes stigma ynghlwm wrth wneud cais i brifysgol drwy’r broses glirio mwyach.

“Rydyn ni’n deall bod gwneud cais i brifysgol drwy’r broses glirio yn gallu rhoi straen ar rai myfyrwyr, ond nod y tîm clirio ym Mhrifysgol Aberystwyth yw gwneud y broses mor hawdd â phosib drwy gynnig canllaw cam wrth gam i ymgeiswyr er mwyn sicrhau eu bod yn dod o hyd i’r cwrs iawn ar eu cyfer,” meddai Mr Moyle, sydd wedi bod yn cynnal sesiynau hyfforddi i staff yn y cyfnod yn arwain at 18 Awst.

“Mae gallu rhoi cyngor a chymorth i fyfyrwyr yn hynod werthfawr. Ar ddiwrnod canlyniadau lefel A, rydyn ni i mewn erbyn 7 o’r gloch y bore - ac er ei fod yn ddiwrnod prysur i bawb, mae yna awyrgylch dda ymhlith y tîm. Rydyn ni i gyd yn gweithio at yr un diben, sef sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyngor gorau i’w galluogi i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth. Gall fod yn ddiwrnod emosiynol, ond mae clywed llais myfyriwr hapus pan fyddwn ni’n gallu cynnig lle iddyn nhw astudio gyda ni yn deimlad gwych.

“Mae llawer o bobl ynghlwm â phroses glirio’r  Brifysgol er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau posib i ymgeiswyr ac mae’r trefniadau logisteg i gyd yn eu lle. Rydyn ni’n edrych ymlaen nawr at dderbyn galwadau gan fyfyrwyr sydd am wneud cais i ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth - prifysgol sydd newydd gael ei gosod ymhlith y deg sefydliad addysg uwch gorau yn y DU, a’r gorau yng Nghymru, o ran bodlonrwydd myfyrwyr.”

Yn ogystal â derbyn galwadau ar rif 0800 arbennig, gellir hefyd gysylltu â staff Prifysgol Aberystwyth drwy ebost, Facebook, Twitter a sgwrs fyw ar-lein.

Fe gysylltodd Ben Grantham â thîm clirio Prifysgol Aberystwyth nôl ym mis Awst 2013 a chafodd gynnig le ar gwrs Astudiaethau Cyfryngau a Chyfathrebu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Fe raddiodd ym mis Gorffennaf 2016 gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ac mae ganddo eiriau o gyngor i fyfyrwyr sy’n mynd trwy’r broses glirio eleni.

“Gyda phroses fel y clirio, mae gweithredu’n gyflym yn holl bwysig. Bydd cannoedd o fyfyrwyr eisiau gwneud cais am gwrs yn syth ar ôl derbyn eu canlyniadau, ac mae llefydd yn aml yn gyfyngedig ac yn llenwi’n gyflym. Fel nifer o rai eraill, roeddwn i ar y ffôn i brifysgolion lai nag awr ar ôl cael fy nghanlyniadau,” meddai Ben.

“Fel y rhan fwyaf o brifysgolion eraill, roedd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Diwrnodau Agored trwy gydol yr haf, ac roedd gennyf gyfle felly i ymweld â’r adran, i gwrdd â rhai o’r staff a gweld yr adnoddau yn yr un ffordd a phetawn wedi gwneud cais fisoedd ynghynt. Roedd yn gyfle gwych i ymgyfarwyddo â’r bobl a’r amgylchedd y byddwn yn treulio cyfnod o dair blynedd yn eu plith.”

Defnyddiodd Ben y broses glirio oherwydd bod ei ganlyniadau’n well na’r hyn roedd yn ei ddisgwyl - proses a elwir yn Addasu. Ond beth bynnag fo natur yr ymholiad, bydd staff clirio Aberystwyth wrth law i helpu, nid yn unig ar ddiwrnod y canlyniadau ond drwy gydol y mis. Y rhif hollbwysig er mwyn cysylltu yw 0800 121 40 80.