Prifysgol Aberystwyth: Boddhad Myfyrwyr gyda’r 10 Uchaf yn y DU a’r Uchaf yng Nghymru

10 Awst 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu’r canlyniadau gorau erioed i’r sefydliad yn yr Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (ACM) sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (Dydd Mercher 10 Awst 2016).

Prifysgol Aberystwyth yw’r gorau yng Nghymru, y pedwerydd o blith prifysgolion traddodiadol y Deyrnas Unedig ac un o’r deg uchaf o blith holl sefydliadau addysg uwch y DU ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr, yn ôl yr arolwg blynyddol.

Dengys y canlyniadau bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr yn Aberystwyth yn 92%. Mae hynny chwe phwynt yn uwch na’r ffigwr o 86% ar gyfer y DU.

Mae dwy o adrannau Aberystwyth ar y brig yn y DU o ran ansawdd eu haddysgu - sef Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a’r Ysgol Gelf - gyda’r ddwy yn cael sgôr o 100% yr un, a bron pob adran arall yn cael dros 90% am foddhad cyffredinol.

Cafodd Prifysgol Aberystwyth ganlyniadau rhagorol hefyd ar draws ystod o’i chyrsiau israddedig unigol, gyda naw rhaglen yn cael sgôr o 100% ar gyfer boddhad cyffredinol: Astroffiseg; Cadwraeth Cefn Gwlad; Celfyddyd Gain; Cyfrifeg a Chyllid; Daearyddiaeth Ffisegol; Gwyddor Anifeiliaid; Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Byd Anorllewinol; Gwyddorau Daear Amgylcheddol; a Bioleg Planhigion. Cafodd 23 o brif raglenni gradd eraill sgôr o 90% y cant neu’n uwch.

Caiff Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ei gynnal gan IPSOS Mori ac mae’n casglu barn myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf o fewn 155 o sefydliadau addysg uwch y DU. Mae’n holi barn myfyrwyr am ystod eang o agweddau, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, asesiadau ac adborth, cymorth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu a datblygiad personol.

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: “Mae profiad myfyrwyr wastad wedi bod wrth wraidd popeth a wnawn ni yma yn Aberystwyth, ac mae’r canlyniadau hyn yn dangos faint o ymdrech a wneir i sicrhau bod y profiad hwnnw yn un ardderchog. Maen nhw hefyd yn adlewyrchu nod cyffredinol Aberystwyth sef sicrhau bod ein myfyrwyr yn llwyddo nid yn unig yn y Brifysgol ond hefyd yn cyrraedd eu hamcanion gyrfaol yn y tymor hir. Rydym wedi buddsoddi yn ein hadnoddau campws, ond mae pwyslais hefyd ar addysgu sy’n cael ei arwain gan ymchwil, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn ansawdd yr addysgu yma.

“Prin yw’r prifysgolion yn y DU sy’n gweld y math o ganlyniadau ‘rydyn ni’n eu gweld ar gyfer Aberystwyth heddiw, gyda myfyrwyr yn datgan yn gwbl glir eu bod yn gwerthfawrogi eu haddysg yma. ‘Rydym wedi dringo dros 100 o lefydd ers y llynedd  ond yn ogystal â lefelau boddhad cyffredinol sydd ymhlith yr uchaf erioed i’r Brifysgol, ‘rydym hefyd yn gweld perfformiadau clodwiw ar draws Adrannau unigol. Mae hyn yn golygu ein bod ymhlith y deg uchaf ar draws pob math o sefydliad addysg uwch yn y Deyrnas Unedig ond o edrych ar brifysgolion tebyg i ni - hynny yw, sefydliadau ymchwil sy'n cael arian cyhoeddus ac yn dysgu ystod eang o bynciau - yna mae Aberystwyth yn y pedwerydd safle o ran bodlonrwydd myfyrwyr.

“Mae’r sector Addysg Uwch wedi gweld tipyn o dro ar fyd ers cyflwyno ffioedd dysgu uwch yn 2011 ac yn y byd newydd sydd ohoni, ‘rydym wedi ailddyblu’n hymdrechion i sicrhau bod pob agwedd ar ddysgu a byw i fyfyrwyr yn Aberystwyth yn rhagorol. Ni fyddai canlyniadau o’r fath yn bosib heb waith caled gan gydweithwyr ymroddedig ar draws y Brifysgol.”

Mae cynllun newydd wedi rhoi cyfleoedd pellach i fyfyrwyr ddatgan eu barn ar draws ystod eang o faterion, gan gynnwys dysgu ac addysgu, llety ac adnoddau campws.

Dywedodd Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn Aberystwyth, Lauren Marks: “Mae Aberystwyth wedi dangos ei bod yn brifysgol sy’n ymateb i anghenion myfyrwyr. Mae ymgyrch yn gofyn i fyfyrwyr pa fath o welliannau y bydden nhw’n hoffi eu gweld wedi arwain at newidiadau mewn meysydd fel amserlenni, trefniadau adborth ac adnoddau dysgu, ac mae’r newidiadau hyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r profiad cyffredinol.

“Mae yna werthfawrogiad go iawn o’r modd mae’r tîm rheoli yma nid yn unig yn arwain, ond hefyd yn gwrando ar lais myfyrwyr yn Aberystwyth, ac yn gweithio mewn partneriaeth ag Undebau’r Myfyrwyr. Mae’n dangos bod myfyrwyr yn cyfrif, ac mae canlyniadau’r Arolwg Myfyrwyr diweddaraf yn adlewyrchu ymdrechion parhaus y Brifysgol i atgyfnerthu a gwella profiad y myfyrwyr yma.”

Dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Rhun Dafydd: “Mae’r canlyniadau hyn yn ardderchog, ac mae’n wych gweld Prifysgol Aberystwyth ar y brig o ran boddhad myfyrwyr yng Nghymru. Mae’n arbennig o braf hefyd gweld bod cwrs israddedig Cymraeg Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth wedi cael canlyniadau gwell yn yr Arolwg eleni na’r un adran arall o’i bath, gan gynnwys Adran Astudiaethau Celtaidd Caergrawnt. Rhaid sicrhau nawr bod y Brifysgol yn adeiladu ar y gwelliannau hyn, ac mi fydd UMCA yn parhau i weithio dros fuddiannau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth.”

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi’n helaeth ar draws ystod o feysydd. Mae dros £8m wedi’i wario ar uwchraddio ystafelloedd addysgu i greu gofodau dysgu sy’n ymgysylltu gyda myfyrwyr, ac i wneud defnydd o’r dechnoleg amlgyfrwng ddiweddaraf ar gyfer addysgu.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd wedi gwario £45m ar adeiladu Fferm Penglais, sydd bellach yn cynnig llety myfyrwyr gyda’r gorau yn y DU, ac mae’r sefydliad wrthi’n llunio adroddiad manwl ar hyn o bryd ar gyllido cynlluniau i ail-agor Neuadd Pantycelyn ar gost o £10m.

Yn ogystal, bydd gwaith adeiladu yn dechrau yn fuan ar gampws arloesi a menter gwerth £40.5m ar dir Gogerddan, ac mae cynlluniau cyffrous wedi’u llunio ar gyfer trawsnewid yr Hen Goleg, gyda buddsoddiad o hyd at £20m.

Daw canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr wythnosau’n unig ar ôl cyhoeddi’r ffigurau cyflogadwyedd diweddaraf ar gyfer prifysgolion y DU, sy’n dangos bod 92% o raddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Aberystwyth.