Swyddog Newydd i Hybu Rygbi yn y Canolbarth

Llyr Thomas, Swyddog Rygbi Prifysgol Aberystwyth

Llyr Thomas, Swyddog Rygbi Prifysgol Aberystwyth

08 Awst 2016

Aberystwyth yw’r cyntaf o blith prifysgolion Cymru i benodi Swyddog Rygbi arbennig i hyrwyddo’r gêm ar lawr gwlad.

Mae penodiad Llŷr Thomas yn cael ei ariannu’n rhannol gan Undeb Rygbi Cymru  ac fe fydd yn gweithio o Ganolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth.

Ei nod fydd adfywio rygbi nid yn unig yn y brifysgol ond hefyd yn y gymuned ehangach trwy greu cysylltiadau gydag ysgolion a chlybiau lleol, ynghyd â rhaglenni eraill sy’n cael cefnogaeth yr Undeb Rygbi fel cyrsiau dyfarnu a hyfforddi.

Gan ddechrau heddiw (Dydd Llun 8 Awst 2016), bydd y cynllun yn gweithredu am gyfnod cychwynnol o dair blynedd ond trwy gydweithrediad agos rhwng y Brifysgol, Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid ehangach, y gobaith yw y gellir ei wneud yn gynaliadwy yn y tymor hir drwy godi proffil rygbi a thyfu cyfranogiad ar bob lefel o'r gêm.

O weithio'n agos gyda Chanolfan Chwaraeon ac Adran Gwyddorau Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth, bydd Llŷr yn gallu defnyddio adnoddau o’r radd flaenaf i greu cynlluniau hyfforddi arbenigol a maethyddol.

Bydd hefyd yn edrych ar agweddau eraill ar y gêm, megis dadansoddiad ystadegol. Yr un mor bwysig fydd sicrhau bod cyfleoedd i chwarae rygbi ar gael i chwaraewyr o bob gallu, gan gynnwys y rheiny tu hwnt i dimau 1XV a 2XV.

Fel cefnwr dros Glwb Rygbi Aberystwyth a chanddo radd mewn Gwyddor Chwaraeon a phrofiad blaenorol o weithio fel swyddog rygbi gydag ysgol leol, bydd Llŷr yn gallu defnyddio ei brofiad a’i gysylltiadau wrth iddo fynd ati i adeiladu cysylltiadau gyda'r gymuned.

"Rwyf wrth fy modd i fod yn dechrau ar y swydd newydd hon ac yn edrych ymlaen at yr her o dyfu’r gêm a gweithio gyda myfyrwyr o bob cefndir. I mi, y peth pwysicaf yw bod dynion a menywod yn cael y cyfle i chwarae – boed nhw â’u bryd ar chwarae ar lefel uwch neu’n fyfyrwyr sydd eisiau profiad o’r gêm drwy chwarae rygbi cyffwrdd, rygbi saith-bob-ochr neu rygbi traeth, "meddai Llŷr.

"Fel unigolyn sydd â chysylltiad agos â'r sin rygbi yn y Canolbarth, byddaf hefyd yn anelu at greu cysylltiadau agos â thimau lleol a chreu llwybrau i’r clybiau hyn ar gyfer chwaraewyr yn ogystal ag ymweld ag ysgolion a’u cynorthwyo gyda’u trefniadau rygbi.”

Dywedodd Darren Hathaway, Rheolwr Cyffredinol Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth: "Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o fenter sy'n anelu at dyfu’r gêm ar lawr gwlad. Mae'n hanfodol cael sîn rygbi bywiog ar lefel clwb a phrifysgol er mwyn cynyddu cyfranogiad, codi safonau a chreu llwybrau clir i bawb sydd eisiau chwarae. Mae penodiad Llŷr yn adeiladu ar gyflawniadau Tîm Rygbi Dynion Prifysgol Aberystwyth a enillodd Gynhadledd 3B y Gorllewin a rownd derfynol Cwpan Canolbarth Cymru yn 2016."

Dywedodd Rheolwr Partneriaethau Undeb Rygbi Cymru, Adrian Evans: “Rydym wrth ein bodd yn cael Prifysgol Aberystwyth fel ein canolfan rygbi addysg uwch cyntaf erioed. Mae prifysgolion yn cynnig cyfle ardderchog i ymgysylltu ac i gadw oedolion ifanc o fewn rygbi o bob fformat, a bydd cael swyddog arbennig yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i fyfyrwyr i chwarae yn ogystal â hyfforddi , gwneud gwaith canolwr, rheoli gemau a rheoli timau.

“Y nod yw darparu i bawb sy’n dangos diddordeb mewn chwarae rygbi yn ystod wythnos y Glas a thu hwnt, p’un ai eu bod yn dymuno symud ymlaen a chwarae rygbi 15 bob-ochr cystadleuol, neu fwynhau  rygbi cyffwrdd rhyngolegol, cymdeithasol. `Rydyn ni’n gwybod bod canran fawr o fyfyrwyr yn aros yn yr ardal ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, ac mae'n flaenoriaeth allweddol i ni i wneud cysylltiadau tymor hir gyda chlybiau lleol."

Dywedodd Julie McKeown, Pennaeth Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth: "`Rydym yn falch iawn i fod yn gweithio'n agos gydag Undeb Rygbi Cymru a thrwy hynny cael bod y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael swyddog hyrwyddo rygbi o’r fath. Mae gan rygbi rym arbennig yng Nghymru ac mae'n ffordd o ddod â chymunedau at ei gilydd. Fel prifysgol gyda ffocws cymunedol cryf, rydym yn falch o fod yn rhan o'r fenter ardderchog yma i helpu pobl ifanc drwy chwaraeon."