Nod Ansawdd y QAA i Brifysgol Aberystwyth
05 Awst 2016
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu adolygiad diweddaraf Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch y QAA sy’n cadarnhau ansawdd a safonau ei darpariaeth.
Bu tîm o adolygwyr y QAA yn ymweld ag Aberystwyth ym mis Ebrill 2016 ac yn eu hadroddiad a gyhoeddwyd Ddydd Gwener 5 Awst 2016, maen nhw’n barnu bod safonau academaidd y Brifysgol, ansawdd ei chyfleoedd dysgu i fyfyrwyr, ac ansawdd y wybodaeth am ei chyfleoedd dysgu oll yn cwrdd a disgwyliadau'r DU.
Mae’r adolygiad yn nodi fel engrhaifft o arfer da ar ran y sefydliad trefniadau’r Brifysgol ar gyfer cyn-gofrestru myfyrwyr a’r gefnogaeth bersonol ar eu cyfer, gan gynnwys rhai ag anghenion dysgu penodol, sy’n hwyluso’u mynediad I’r Brifysgol.
Dywedodd yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro ym Mhrifysgol Aberystwyth: 'Rwyf wrth fy modd bod ansawdd a safon y ddarpariaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael sel bendith asiantaeth y QAA. Mae casgliadau cadarnhaol adolygiad diweddaraf y QAA yn dyst i ymroddiad ein staff sy'n gweithio'n galed bob amser i sicrhau bod ein safonau academaidd ac ansawdd ein cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr yn cwrdd a disgwyliadau'r DU.
“'Rydym yn falch bod yr adolygwyr wedi amlygu fel enghraifft o arfer da y broses o gyn-gofrestru a chymorth personol sy’n cael ei gynnig i fyfyrwyr newydd yma yn Aberystwyth, yn enwedig i’r rheiny sydd ag anghenion dysgu penodol. Mae'r canfyddiad yma yn tanlinellu un o'n prif flaenoriaethau yma yn Aberystwyth sef gwella pob agwedd ar brofiad myfyrwyr.
Rydym yn gwerthfawrogi ymgysylltiad ASA gyda'r brifysgol yn eu rôl fel cyfeillion beirniadol a bydd argymhellion y tîm adolygu'n ein tywys yn y flwyddyn o'n blaenau wrth i ni ddatblygu ein gweithgareddau sicrhau a gwella ansawdd ymhellach. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau'n ymatebol i anghenion ein myfyrwyr ac yn parhau i sicrhau bod Aberystwyth yn lle eithriadol i ddysgu ac i fyw.”
Fel sy'n arferol, mae’r adolygiad hefyd yn gwneud rhai argymhellion ar gyfer gwelliannau ac mae'r Brifysgol eisoes yn mynd i'r afael a’r rhain mewn cynllun gweithredu. Mae’r argymhellion yn cynnwys:
• sicrhau cyfranogiad systematig myfyrwyr fel partneriaid yn y broses o gymeradwyo ac adolygu rhaglenni, a gwella profiad y myfyrwyr
• sicrhau bod dull cyson tuag at apeliadau academaidd yn cael ei arfer o fewn ac ar draws athrofeydd
• sicrhau cysondeb o ran y gwybodaeth graidd a ddarperir i fyfyrwyr mewn llawlyfrau fewn ac ar draws athrofeydd.
Caiff arolygon addysg uwch y QAA eu cynnal gan arbenigwyr o brifysgolion a cholegau eraill. Mae pob tîm adolygu yn cynnwys adolygydd sy’n fyfyriwr, gan fod y QAA yn credu y dylai myfyrwyr fod yn bartneriaid yn y broses o sicrwydd ansawdd eu haddysg.
Mae'r tîm fu’n adolgyu Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys yr Athro Hastings McKenzie (Prifysgol Swydd Stafford), Claire Morgan (Prifysgol Metropolitan Caerdydd), yr Athro Denis Wright (Coleg Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth Imperial) a Sarah Crook (adolygydd myfyrwyr, Prifysgol Llundain Queen Mary).
Mae adolygiad llwyddiannus yn golygu y gall y Brifysgol arddangos Nod Ansawdd QAA, sy'n dangos i fyfyrwyr y Du a myfyrwyr rhyngwladol bod y Brifysgol yn cwrdd â gofynion y DU ar gyfer safonau ac ansawdd y DU.
Mae'r adroddiad llawn i'w weld ar wefan y QAA: https://www.qaa.ac.uk/cy/adolygu-addysg-uwch/adroddiadau-sicrhau-ansawdd/Index/2/