Hunaniaeth a chyfiawnder o Batagonia drefedigaethol i’r Gymru fodern
Dr Lucy Taylor
01 Awst 2016
Pa syniadau am Gymreictod sy’n sail i fytholeg a realaeth Patagonia Gymreig? Mae’n gwestiwn sydd wedi ysgogi ymchwil diweddar gan academydd o Brifysgol Aberystwyth am y berthynas rhwng y Cymry a phobl frodorol yr Ariannin, a bydd yn trafod hyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Casgliad Dr Lucy Taylor, sy’n Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau America Ladin yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, yw bod y Cymry - na allai hawlio goruchafiaeth economaidd, filwrol, wleidyddol na diwylliannol - wedi canolbwyntio yn hytrach ar hygrededd moesol drwy gyfleu Cymru fel ‘gwlad fach yn llawn cewri moesol’.
A gan fod cyfiawnder fel thema yn fotiff canolog i hunaniaeth Gymreig ym Mhatagonia, dywed y gellid dadlau yn yr un modd bod hyn wedi aros yn berthnasol yng Nghymru heddiw drwy bolisïau ôl-ddatganoli megis gwahardd ysmygu mewn llefydd cyhoeddus, cyflwyno tâl am fagiau plastig a rhagdybio cydsynio i roi organau - gyda’r cyfan yn cynnwys agenda moesol.
Wrth siarad am ei gwaith, dywed Dr Taylor: “Roedd y Cymry ym Mhatagonia yn pwysleisio egwyddorion cyfiawnder pan wnaethant gyfarfod gyntaf â phobl frodorol Patagonia, ac yn fwriadol fe ddilynon nhw lwybr cyfeillgarwch, nid trais, wedi ei ysgogi gan awydd i fod yn dosturiol ac yn raslon.
“Gwnaeth awduron Cymreig yn siŵr bod eu cynulleidfaoedd yn cael gwybod y cyfan am yr ymddygiad rhinweddol hwn ac fe ddefnyddion nhw hyn i hawlio goruchafiaeth foesol o’i chymharu â gweithredoedd gwledydd eraill – yn enwedig Lloegr.
“Fe wnaethon nhw gymharu ‘y ffordd heddychlon Gymreig o wladychu’ â’r polisïau cas, a oedd weithiau’n dreisgar, a fabwysiadwyd gan yr Archentwyr ym Mhatagonia ac o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig. Gallai gweithredoedd cyfiawn bortreadu Cymru fel gwlad foesol a chynhyrchu grym gwleidyddol i herio ei hisraddoldeb yn y DU.”
Wrth gymharu goruchafiaeth foesol y Cymry ym Mhatagonia â rhai o’r polisïau ôl-ddatganoli yng Nghymru heddiw, ychwanegodd Dr Taylor: “Yn union fel yr oedd y Cymry ym Mhatagonia yn pwysleisio eu cyfiawnder fel modd o wella eu safle ymysg cenhedloedd eraill, gellid awgrymu bod newidiadau yn y gyfraith ar faterion megis rhoi organau nid yn unig yn adlewyrchu ymdeimlad moesol sy’n fyw o hyd yng Nghymru, ond y mae hefyd, yn isymwybodol, yn caniatáu inni honni bod Cymru yn wlad bwysig gan ei bod yn arweinydd moesol.”
Cynhelir darlith Dr Taylor ‘Cyfiawnder Cymreig ym Mhatagonia: cwmpawd moesol a grym moesol’ am 2pm Ddydd Mawrth 2 Awst ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol 2016 Sir Fynwy a’r Cyffiniau.
Mae’r digwyddiad yn un o gyfres eang o ddigwyddiadau academaidd a diwylliannol a drefnir gan y Brifysgol ar faes yr Eisteddfod. Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar ein gwefan.