Prifysgol Aberystwyth ar Faes y Brifwyl

28 Gorffennaf 2016

O hanes teledu Cymru i Karate a brwydrau sôs coch, mae gan Brifysgol Aberystwyth raglen ddifyr o weithgareddau ar gyfer eu stondin ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cylch yn Y Fenni eleni.

Am 10.30yb Ddydd Llun 1 Awst, bydd yr uwch ddarlithydd Dr Jamie Medhurst yn edrych ar y berthynas rhwng teledu a’r gymdeithas yng Nghymru ac yn siarad am ei ymchwil diweddaraf sydd wedi cael cymhorthdal Leverhulme.

Bydd un o gydweithwyr Dr Medhurst yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Dr Gareth Llŷr Evans, yn arwain gweithdy arbennig Ddydd Mawrth 2 Awst allai gynnwys tynnu llun ar gefn oedolyn, gwisgo bwyd neu hyd yn oed frwydro gyda sôs coch.

A phymtheg mlynedd ers i’r ddau ddod i’r coleg ger y lli yn las fyfyrwyr, bydd y Dr Hywel Griffiths ac Eurig Salisbury yn rhannu rhai o’u straeon Ddydd Iau 4 Awst ac yn bwrw golwg nôl ar rai o’r cerddi maen nhw wedi cyfansoddi ers 2001. Mae’r ddau bellach yn brifeirdd a’r ddau yn ddarlithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth – y naill yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a’r llall yn yr Adran Gymraeg.

Yn ôl yr arfer, fe fyddwn ni’n cynnal ein haduniad poblogaidd i gyn fyfyrwyr Ddydd Mercher 3 Awst, gyda digwyddiad ar gyfer myfyrwyr presennol UMCA Ddydd Gwener 5 Awst.

Os oes angen hoe fach ar ôl bod yn crwydro’r maes, mae wastad cadair a phaned i’w cael ar y stondin a digon o gwmni difyr.

Mae’r manylion i’w cael yn llawn yn ein rhaglen o weithgareddau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2016 sydd ar ein gwefan.

Nid ar stondin Aberystwyth yn unig y bydd cyfle i weld staff y Brifysgol wrth eu gwaith ar y maes. Ym Mhabell y Cymdeithasau (1) Ddydd Llun 1 Awst am 1 o’r gloch, bydd y Dr Hywel Griffiths o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn traddodi’r Ddarlith Wyddonol sy’n cael ei noddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Y testun bydd geomorffeg sy’n edrych ar darddiad a datblygiad ein tirluniau.

Ddydd Iau 4 Awst bydd Prifysgol Aberystwyth yn lansio cwrs uwchraddedig newydd ym maes Cyfieithu Proffesiynol a hynny ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n un o’r prif bartneriaid.

Mae’r Brifysgol hefyd yn brif noddwr y Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg eleni lle bydd cyfle i glywed rhywfaint am y gwaith ymchwil arloesol sy’n cael ei wneud yma yn ogystal â rhoi cynnig ar ambell her fel godro ‘Seren’ y fuwch fecanyddol, plannu hadau a gwylio arddangosfa’r Afon Fach. Ymhlith gweithgareddau eraill sy'n cael eu trefnu gan staff yn ein Hathrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg gyda chefnogaeth gan Sefydliad Ffiseg y DU, mae robotiaid bach a chwch robotaidd, posau mathemateg, delweddu 3D o'r blaned Mawrth ac adeiladu deiamwntau artiffisial.   

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn noddi Maes B lle bydd dros ugain o fandiau yn perfformio eleni. 

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn un o uchelbwyntiau’r calendr i Brifysgol Aberystwyth. Mae’n gyfle i ni rannu rhywfaint o’n gwaith ymchwil a’n syniadau gyda chynulleidfa ehangach trwy ddarlithiau, digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol,” meddai’r Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae hefyd yn gyfle i ni ysbrydoli myfyrwyr y dyfodol, i gadw cysylltiad gyda myfyrwyr presennol ac i ail-gysylltu gyda’n cyn fyfyrwyr. Mae’n mynd i fod yn wythnos brysur ond edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr hen a newydd i’n stondin arbennig yn y Fenni.”