Pumed plentyn o’r un teulu yn graddio o Aber
Chwith i’r dde: Siôn ap Glyn, Beca Glyn, Mirain ap Glyn, Llŷr Serw ap Glyn a Heledd Dylasau.
27 Gorffennaf 2016
Pan raddiodd Mirain Glyn o Brifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2016, roedd yr achlysur yn ddiwedd cyfnod i deulu o Wynedd.
Hi oedd yr olaf o bump o blant y teulu Glyn i raddio ym Mhrifysgol Aberystwyth, y cyntaf oedd ei brawd Siôn a ddechreuodd nôl yn 2005. Ers hynny, teithiodd pob un o’r teulu i lawr o Fetws y Coed i astudio yng Ngheredigion.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn enwog am safon ei haddysg yn ogystal â’i hawyrgylch gyfeillgar ac os daw un aelod o deulu i astudio yma yn aml mae eraill yn dilyn - ond mae hon yn record a fydd yn anodd ei churo.
Dros yr un mlynedd ar ddeg ddiwethaf bu aelod o’r teulu Glyn yn byw ac yn astudio yn Aberystwyth ac mae’r dref fel ail gartref iddynt, fel yr eglura Mirain: “Bu fy nheulu’n ymweld ac yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ers cyhyd mae’r lle fel cartref oddi cartref i ni. Deg oed oeddwn i pan ddes i yma gyntaf gyda Siôn, ond mae’n rhaid ei fod wedi gwneud tipyn o argraff.
“Fel fy mrodyr a’m chwiorydd doeddwn i erioed eisiau mynd i unrhyw le arall a bydd yn ddrwg gen i adael. Rydyn ni wedi gwneud ffrindiau da ac mae gennym atgofion gwych – a pha Brifysgol arall all ddweud bod ganddi’r fath arfordir hardd!”
Ers gorffen eu hastudiaethau mae pob un wedi symud ymlaen yn eu hamrywiol feysydd.
Graddiodd yr hynaf, Siôn, yn 2008 mewn Gwleidyddiaeth a Hanes ac arhosodd ymlaen i wneud cwrs TAR yn y Brifysgol. Y awr mae'n Swyddog Cyfathrebu yng Nghaerdydd ac mae ei frawd Llŷr, a raddiodd yn y Gyfraith yn 2009, bellach yn Swyddog y Tribiwnlys gyda Thribiwnlys Prisio Cymru i Lywodraeth Cymru.
Nesaf daeth y tair chwaer, a graddiodd Heledd yn 2011 gyda Gradd Anrhydedd BA yn y Gymraeg a bellach mae’n athrawes gynradd yn y Fron Goch, Y Bala. Graddiodd Beca y llynedd mewn Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Busnes, ac ar ôl cyfnod tri mis yn Seland Newydd mae hi wedi mynd nôl i weithio ar fferm y teulu gyda’i thad.
Ac yn olaf, graddiodd Mirain eleni gyda BA mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod. Yn ystod ei chyfnod yn Aberystwyth bu’n llysgennad ac yn gynrychiolydd Cymraeg i’r adran Dysgu Gydol Oes, yn aelod o UMCA, y Geltaidd, a bu’n chwarae rygbi i’r tîm merched Cymraeg.
Yn ôl yr Athro Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor y Gymraeg a Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r awyrgylch teuluol cryf ynghyd â’r safonau dysgu rhagorol yn gwneud Aberystwyth yn lle deniadol i nifer o frodyr a chwiorydd.
"Nid yw’n syndod i ni bod aelodau teuluoedd yn tueddu i ddilyn yn ôl traed ei gilydd ond hyd yn oed yn ôl ein safonau ni mae hyn yn dipyn o record. Mae ein pwyslais ar ddatblygu naws cyfeillgar a chroesawgar ynghyd â’n ffocws ar hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant yn denu sylwadau’n gyson gan fyfyrwyr a rhieni fel ei gilydd. Mae’n ddiwedd cyfnod gwych i’r teulu Glyn ond, fel sy’n wir am bob un o’n cyn-fyfyrwyr, bydd croeso’n ôl iddynt bob amser.”
AU24116