Aled Haydn Jones o Radio 1 y BBC yn cael Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau
Aled Haydn Jones yn cael Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau gan y Dirprwy Ganghellor, Mrs Elizabeth France CBE
15 Gorffennaf 2016
Heddiw cafodd Aled Haydn Jones o Radio 1 y BBC ei anrhydeddu â Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau gan Brifysgol Aberystwyth.
Ac yntau wedi'i eni, ei fagu a'i addysgu yn Aberystwyth, dechreuodd Aled ei yrfa yn y cyfryngau drwy weithio ar radio'r ysbyty lleol yn Aberystwyth ac ar Radio Ceredigion.
Ar ôl cynilo'r arian a gafodd o weithio yng nghaffi ei rieni, sef Caffi Morgan yn Aberystwyth, mentrodd i Lundain i weithio i'r BBC, ac yno y mae ef ers ugain mlynedd erbyn hyn.
Yn Radio 1 fe ddringodd drwy'r rhengau, o fod yn rhedwr ar Sioeau Teithiol Radio 1 i fod yn gynhyrchydd ar y rhaglen frecwast fwyaf hirhoedlog ar Radio 1 gyda Chris Moyles a'r tîm, gan ddarlledu'r rhaglen yn fyw o Aberystwyth ar sawl achlysur. Aled hefyd oedd cyflwynydd rhaglen The Surgery yn rhoi cyngor i bobl ifainc fregus yn fyw ar yr awyr am chwe blynedd.
Mae hefyd wedi bod yn gyflwynydd ar S4C ar raglenni WawFfactor, Cân i Gymru ac ar ei raglen ei hun Llond Ceg, yn trafod materion sy'n wynebu pobl ifainc yng Nghymru.
Erbyn hyn mae Aled yn rheoli rhaglenni a digwyddiadau penwythnosol Radio 1 gan gynnwys The Teen Awards a Big Weekend.
Cyflwynwyd Aled Haydn Jones ar ddydd Gwener 15 Gorffennaf gan Lywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Lauren Marks.
Cyflwyno Aled Haydn Jones
Dirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Aled Haydn Jones am radd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau gan Brifysgol Aberystwyth.
Pro Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Aled Haydn Jones for an Honorary Bachelor Degree of Arts of Aberystwyth University.
Aled was born in Aberystwyth in 1976, to his parents Haydn and Ann, and his family were owners of Caffi Morgan – one of Aberystwyth’s most popular local cafés.
He attended Ysgol Gymraeg Aberystwyth and Ysgol Gyfun Penweddig – welsh medium primary and secondary schools respectively, completed his BTEC in Media Studies at Swansea College, and is a fluent Welsh speaker.
His radio career began at 14 years old, when he was the presenter of a slot on Radio Bronglais Aberystwyth. He joined the commercial radio station Radio Ceredigion after its launch in 1992, and eventually joined the infamous BBC Radio 1 as a broadcast assistant in 1998.
Aled, aka ‘BB Aled’, is possibly most known for his role on DJ Chris Moyles’ team, first joining the afternoon broadcast show, and overseeing the launch of the Chris Moyles Breakfast Show in 2004 – Radio 1’s longest ever running breakfast show.
In 2008, Aled took the reigns as the presenter of Radio 1’s The Surgery on Sunday nights, facilitating young audiences to find sensible solutions to the problems they contact the show with.
Aled is a proud Aberystwythian, and regularly promotes the town to listeners, and has been heavily involved in broadcasts from Aberystwyth.
Aled is an incredible advocate for young people, and also chairs the Teen Heroes Panel, who along with youth charities, Radio 1 DJs and celebrities including Professor Green, choose three exceptional and courageous young people to receive Radio 1 Teen Heroes Awards.
He also presented The B Word for BBC Radio 1 Wales, and Social Action Bullying for BBC Wales, both shows looking at the effects of bullying and how to combat it.
He has hosted and chaired several forums for young people including The Big Conversation on Radio 1.
Aled is constantly working to give young people a voice; he has chaired Get Hired Live at Wembley, an event for graduates to find employment at UK companies, chaired a Youth Health Conference funded by Birmingham Children’s Hospital for young people to share their thoughts on the NHS, and was a guest speaker at Big Ideas Wales Challenge, giving motivational talks to young entrepreneurs.
Aled has also been a host for The Welsh Tourism Awards.
Dirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Aled Haydn Jones i chi am radd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau.
Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Aled Haydn Jones to you for an Honorary Bachelor Degree of Arts.
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2016
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2016, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 12 Gorffennaf a dydd Gwener 15 Gorffennaf.
Cyflwynir wyth Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.
Bydd un gradd Doethuriaeth er Anrhydedd yn cael ei chyflwyno. Cyflwynir y rhain i unigolion a fu’n eithriadol llwyddiannus yn eu maes, sy’n nodedig am eu gwaith ymchwil neu wedi cyhoeddi’n helaeth.
Cyflwynir tair gradd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.
Anrhydeddir y canlynol hefyd:
Cymrodoriaethau er Anrhydedd:
Dr Catherine Bishop, enillydd Olympaidd driphlyg, diplomydd gwrthdaro rhyngwladol, siaradwr a hwylusydd profiadol
Natasha Devon MBE, awdur, ymgyrchydd, sylwebydd teledu, a sylfaenydd y Self Esteem Team
Yr Athro Julian Dowdeswell, Cyfarwyddwr Sefydliad Scott i Ymchwil y Pegynnau ac Athro Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt
Charmian Gooch, ymgyrchydd gwrth-lygredd a chyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Global Witness
Ruth Lambert, cyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth, a fu’n drefnydd Gŵyl Machynlleth a rhaglen arddangosfa MOMA Machynlleth am ymron i ddeng mlynedd ar hugain
Dr Mitch Robinson, arbenigwr yn y gyfraith ryngwladol i Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau sy’n arbenigo mewn iawnderau dynol, ac alumnus o’r Brifysgol
Syr Evan Paul Silk KCB, Llywydd Grŵp Astudio’r Senedd; cyn Glerc yn Nhŷ’r Cyffredin, Clerc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
A J S “Bill” Williams MBE (1920-2016), peilot yn yr RAF a darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a enwyd yn 2014 yn un o’r 175 o Wynebau Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Gradd Doethur er Anrhydedd:
Yr Athro Ken Walters, Athro Ymchwil Nodedig yn Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg y Brifysgol, Cymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol
Graddau Baglor er Anrhydedd:
Karina Shaw, Prifathrawes Gynorthwyol yn Ysgol Penglais, Aberystwyth, Cyfarwyddwr Fforwm Cymunedol Penparcau, sylfaenydd a Chadeirydd presennol grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau, a gwirfoddolwr gydag elusennau
Stefan Osgood (1994-2016), a gyflawnodd ac a gyfrannodd yn helaeth wrth astudio yn Aberystwyth, yn enwedig mewn chwaraeon ac fel cyfrannwr eithriadol i ymgyrch codi arian y myfyrwyr yn y brifysgol
Aled Haydn Jones yn cael Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau gan y Dirprwy Ganghellor, Mrs Elizabeth France CBE
Aled Haydn Jones gyda'r Is-Ganghellor Yr Athro April McMahon
Aled Haydn Jones