Anrhydeddu Syr Paul Silk KCB â Chymrodoriaeth
Canghellor Syr Emyr Jones Parry, Syr Evan Paul Silk KCB a’r Is-Ganghellor Yr Athro April McMahon.
13 Gorffennaf 2016
Cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth i Syr Evan Paul Silk KCB.
Yn enedigol o Gruchywel, aeth Syr Paul i’r ysgol yn Aberhonddu cyn mynd ymlaen i addysg uwch yn Rhydychen, Princeton (UDA) a’r Brifysgol Agored.
Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol yn Glerc yn Nhŷ’r Cyffredin. O 2001 tan 2007 bu’n Glerc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Wedi hynny, ef oedd Cyfarwyddwr Prosiectau Strategol yn Nhŷ’r Cyffredin o 2007 tan 2010. O 2011 tan 2014 cadeiriodd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.
Y mae’n Athro er Anrhydedd yn Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd, hefyd mae’n Llywydd Grŵp Astudio’r Senedd, ac mae wedi ysgrifennu a darlithio yn helaeth ar y Senedd a’r cyfansoddiad.
Cafodd ei benodi’n Farchog Gomander Urdd y Baddon yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2015 am ei wasanaethau i seneddau ac i ddatganoli.
Cyflwynwyd Syr Paul yn Gymrawd ddydd Mercher 13 Gorffennaf gan Dr Elin Royles o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Cyflwyniad Syr Evan Paul Silk KCB
Ganghellor, Is-Ganghellor, ddarpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Syr Evan Paul Silk yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Mae Paul wedi gwneud cyfraniad aruthrol i fywyd cyhoeddus Cymru a’r Deyrnas Gyfunol drwy rolau blaenllaw yn Nhy’r Cyffredin, ac fel Clerc bu’n amlwg yn broses o arwain y Cynulliad Cenedlaethol o’i ddechreuadau digon simsan i dyfu’n ddeddfwrfa seneddol gydnabyddedig.
Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Sir Evan Paul Silk as a Fellow of Aberystwyth University.
Paul is a native of Crickhowell, and was educated at Oxford, Princeton and the Open University. He has made a substantial contribution to public life in Wales and in the United Kingdom. This is evidenced in being appointed KCB in 2015 for services to Parliaments and to devolution.
Most of his professional career was spent in the House of Commons. Amongst his notable roles, he served as a Clerk of two of the house’s most important and influential committees: the Foreign Affairs and Home Affairs Committees.
In 2001, Paul became the Clerk to the National Assembly for Wales at a time when the two year old institution wasn’t quite what it is today in its iconic Cardiff Bay building. Paul played a critical role in a process that empowered a fragile institution to the status of a parliamentary body that now takes its proper place among the legislatures of the United Kingdom and sub-state governments in Europe.
Building on this, Paul chaired the UK Government’s Commission on Devolution in Wales from 2011 to 2014. The Commission’s two reports paved the way for the beginnings of tax devolution to Wales in the Wales Act 2014 and for strengthening the legislative powers of the Assembly in the Draft Wales Bill that is currently under scrutiny. The Commission set a clear direction for devolution to Wales, one that remains challenging to some within parties at the UK level and in Whitehall. ‘Silk’ stands alongside other surnames such as Kilbrandon, Richard, Calman as reports of high importance to devolution and therefore to the integrity of the United Kingdom.
Dan gadeiryddiaeth Paul, cynhaliodd y Comisiwn drafodaethau trylwyr gan bwyso a mesur ystod o dystiolaeth o Gymru ac yn rhyngwladol. Dangosodd y Comisiwn argyhoeddiad ac ymrwymiad i osod egwyddorion a seiliau cadarn i drefniadau datganoli yng Nghymru. Mae ei gyfraniad i sefydlu trefniadau democrataidd gwydn yn ymestyn dramor hefyd.
Paul has also participated in a number of programmes for emerging democracies in places such as Iraq and Afghanistan. His contributions to democracy promotion initiatives, often in dangerous places, are testimony to his commitment to disseminating best practice regarding representation and the work of legislatures in territories that have in their recent past faced radically different governance records, and where instituting appropriate democratic arrangements is challenging.
Paul’s commitment to public life in Wales, in the United Kingdom and in sharing that best practice abroad is something to aspire to for all of us.
As prospective graduates, you have had the incredible privilege of a world-class education. As you move onto the next chapter in your academic or working lives, I’d encourage you to consider Paul’s example and think about how best to use your education to contribute to a better world.
Mae'n fraint i mi yn bersonol, ac i'r Brifysgol, i gydnabod a dathlu cyfraniad aruthrol a pharhaus Paul i fywyd cyhoeddus Cymru a’r Deyrnas Gyfunol. Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Sir Paul Silk i chi yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Chancellor, it is my absolute pleasure to present Sir Paul Silk to you as a Fellow of Aberystwyth University.
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2016
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2016, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 12 Gorffennaf a dydd Gwener 15 Gorffennaf.
Cyflwynir wyth Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.
Bydd un gradd Doethuriaeth er Anrhydedd yn cael ei chyflwyno. Cyflwynir y rhain i unigolion a fu’n eithriadol llwyddiannus yn eu maes, sy’n nodedig am eu gwaith ymchwil neu wedi cyhoeddi’n helaeth.
Cyflwynir tair gradd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.
Anrhydeddir y canlynol hefyd:
Cymrodoriaethau er Anrhydedd:
Dr Catherine Bishop, enillydd Olympaidd driphlyg, diplomydd gwrthdaro rhyngwladol, siaradwr a hwylusydd profiadol
Natasha Devon MBE, awdur, ymgyrchydd, sylwebydd teledu, a sylfaenydd y Self Esteem Team
Yr Athro Julian Dowdeswell, Cyfarwyddwr Sefydliad Scott i Ymchwil y Pegynnau ac Athro Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt
Charmian Gooch, ymgyrchydd gwrth-lygredd a chyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Global Witness
Ruth Lambert, cyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth, a fu’n drefnydd Gŵyl Machynlleth a rhaglen arddangosfa MOMA Machynlleth am ymron i ddeng mlynedd ar hugain
Dr Mitch Robinson, arbenigwr yn y gyfraith ryngwladol i Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau sy’n arbenigo mewn iawnderau dynol, ac alumnus o’r Brifysgol
A J S “Bill” Williams MBE (1920-2016), peilot yn yr RAF a darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a enwyd yn 2014 yn un o’r 175 o Wynebau Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Gradd Doethur er Anrhydedd:
Yr Athro Ken Walters, Athro Ymchwil Nodedig yn Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg y Brifysgol, Cymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol
Graddau Baglor er Anrhydedd:
Karina Shaw, Prifathrawes Gynorthwyol yn Ysgol Penglais, Aberystwyth, Cyfarwyddwr Fforwm Cymunedol Penparcau, sylfaenydd a Chadeirydd presennol grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau, a gwirfoddolwr gydag elusennau
Aled Haydn Jones, golygydd radio yng Nghymru, cyflwynydd a chyn-gynhyrchydd gyda Radio 1 y BBC, a chyflwynydd gydag S4C.
Stefan Osgood (1994-2016), a gyflawnodd ac a gyfrannodd yn helaeth wrth astudio yn Aberystwyth, yn enwedig mewn chwaraeon ac fel cyfrannwr eithriadol i ymgyrch codi arian y myfyrwyr yn y brifysgol.
AU21416
Canghellor Syr Emyr Jones Parry, Syr Evan Paul Silk KCB a’r Is-Ganghellor Yr Athro April McMahon.
Syr Evan Paul Silk KCB
Canghellor Syr Emyr Jones Parry a'r Syr Evan Paul Silk KCB.