Pennaeth Cynorthwyol Karina Shaw yn cael Gradd Baglor er Anrhydedd
Karina Shaw yn cael Gradd Baglor er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth.
12 Gorffennaf 2016
Mae Karina Shaw, un o Benaethiaid Cynorthwyol Ysgol Penglais, Aberystwyth, wedi cael Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau a gyflwynwyd iddi gan Brifysgol Aberystwyth.
Mae gan Karina hanes hir o weithio yn Ysgol Penglais, a hithau'n dysgu yno ers 16 o flynyddoedd.
Mae hi’n teimlo’n gryf ynglŷn â chynhwysiant cymdeithasol nid yn unig o fewn i’r ysgol ond hefyd yn y gymuned ehangach. Hi yw Cyfarwyddwr Fforwm Cymunedol Penparcau ac mae’r swyddogaeth hon wedi rhoi cyfle iddi fod yn gysylltiedig â phob math o brosiectau cymunedol.
Mae hi hefyd yn frwdfrydig ynghylch cadw hanes lleol a threftadaeth leol yn fyw er budd cenedlaethau’r dyfodol. Hi yw sylfaenydd a Chadeirydd presennol grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau.
Yn ei horiau hamdden mae Karina’n gwirfoddoli yn y gymuned ar amrywiaeth o brosiectau ac yn gweithio’n wirfoddol bob wythnos yn siop elusen Tŷ Hafan Aberystwyth.
Cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd i Karina Shaw ddydd Mawrth 12 Gorffennaf gan Mr Prysor Mason Davies o'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Karina Shaw yn cael ei chyflwyno:
Dirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Karina Shaw am radd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau gan Brifysgol Aberystwyth.
Pro Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Karina Shaw for an Honorary Bachelor Degree of Arts of Aberystwyth University.
As a representative of the School of Education and Lifelong Learning, it is seems fitting that we have this opportunity to celebrate the contribution of a person who has, and does contribute significantly to education in the local area.
Fel cynrychiolydd o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’n hyfryd cael cydnabod cyflawniadau rhywun sydd, fel ni yn yr Adran, yn gweld Addysg fel rhywbeth sydd a’r gallu i drawsnewid bywydau a gobeithion pobl ac sydd yn hawl i bob person heb ystyriaeth o’u cefndir, eu cyllid, eu hoed na’u safle.
It is very pleasing to introduce someone who sees education as something far broader than the school walls and as something which is a right and a necessity for all members of society, regardless of their background, financial status, age or position. This is an attitude that we would passionately subscribe to in the School of Education.
Karina Shaw is an Assistant Headteacher at Ysgol Penglais, Aberystwyth and teaches in the Widening Participation Unit. She has a long history with Ysgol Penglais having taught there for the last 16 years and prior to this she was also a pupil at the school (I am sure that she deserves an honourary degree just for being a Secondary School teacher for 16 years). This shows that she is therefore passionate about social inclusion within the school environment, enabling students to achieve and succeed regardless of background and I am sure you would agree that this is a vital and essential role.
Mae Karina yn amlwg felly yn berson sydd yn rhoi gwerth ar cynhwysiant cymdeithasol o fewn muriau’r ysgol, gan roi cyfleoedd unigryw ac arbennig i nifer fawr o ddisgyblion, i’w galluogi i lwyddo a chyflawni. Ond nid gwerthoedd o fewn ei gwaith yn unig yw’r rhain, ond gwerthoedd sydd yn cylchynnu ei bywyd ehangach hefyd, lle mae’n cyfrannu yn helaeth i addysg a datblygiad y gymuned leol yn arbennig ym maes hanes a threftadaeth.
Her passion for education is not limited by the classroom walls or her employment – it extends to the wider community. As a resident of Penparcau, she is a Director of the Penparcau Community Forum and this role has given her the opportunity to be involved in a wide range of community projects. She is passionate about preserving local history and heritage for future generations and ensuring that the community develops and is provided with education and knowledge of the past. She is a founder member and current Chairwoman of the Penparcau History and Heritage group which is open to anyone who wishes to share memories, stories and photographs of the village and involves a number of heritage trips and events. The History & Heritage Group now has in excess of 500 Facebook Members, with regular posts from a wide range of people, evidencing the role it plays in widening participation in education and heritage across the region. In her spare time (how an assistant head who does so much in the community has any spare time baffles me completely!) In her spare time she volunteers within the community on a variety of projects and she volunteers weekly at the Aberystwyth Ty Hafan charity shop.
Rwy’n siŵr y cytunwch â mi fod gwaith Karina Shaw yn torri’r rhwystrau i addysg a datblygiad ac yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.
I am sure that Karina Shaw’s work in breaking down the barriers to education and development in this local area is an inspiration to us and an example for us to aspire to.
Dirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Karina Shaw i chi am radd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau.
Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Karina Shaw to you for an Honorary Bachelor Degree of Arts.
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2016
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2016, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 12 Gorffennaf a dydd Gwener 15 Gorffennaf.
Cyflwynir wyth Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.
Bydd un gradd Doethuriaeth er Anrhydedd yn cael ei chyflwyno. Cyflwynir y rhain i unigolion a fu’n eithriadol llwyddiannus yn eu maes, sy’n nodedig am eu gwaith ymchwil neu wedi cyhoeddi’n helaeth.
Cyflwynir tair gradd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.
Anrhydeddir y canlynol hefyd:
Cymrodoriaethau er Anrhydedd:
Dr Catherine Bishop, enillydd Olympaidd driphlyg, diplomydd gwrthdaro rhyngwladol, siaradwr a hwylusydd profiadol
Natasha Devon MBE, awdur, ymgyrchydd, sylwebydd teledu, a sylfaenydd y Self Esteem Team
Yr Athro Julian Dowdeswell, Cyfarwyddwr Sefydliad Scott i Ymchwil y Pegynnau ac Athro Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt
Charmian Gooch, ymgyrchydd gwrth-lygredd a chyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Global Witness
Ruth Lambert, cyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth, a fu’n drefnydd Gŵyl Machynlleth a rhaglen arddangosfa MOMA Machynlleth am ymron i ddeng mlynedd ar hugain
Dr Mitch Robinson, arbenigwr yn y gyfraith ryngwladol i Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau sy’n arbenigo mewn iawnderau dynol, ac alumnus o’r Brifysgol
Syr Evan Paul Silk KCB, Llywydd Grŵp Astudio’r Senedd; cyn Glerc yn Nhŷ’r Cyffredin, Clerc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
A J S “Bill” Williams MBE (1920-2016), peilot yn yr RAF a darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a enwyd yn 2014 yn un o’r 175 o Wynebau Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Gradd Doethur er Anrhydedd:
Yr Athro Ken Walters, Athro Ymchwil Nodedig yn Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg y Brifysgol, Cymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol
Graddau Baglor er Anrhydedd:
Aled Haydn Jones, golygydd radio yng Nghymru, cyflwynydd a chyn-gynhyrchydd gyda Radio 1 y BBC, a chyflwynydd gydag S4C
Stefan Osgood (1994-2016), a gyflawnodd ac a gyfrannodd yn helaeth wrth astudio yn Aberystwyth, yn enwedig mewn chwaraeon ac fel cyfrannwr eithriadol i ymgyrch codi arian y myfyrwyr yn y brifysgol.
AU21216
Dirprwy-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Miss Gwerfyl Pierce Jones gyda’r Karina Shaw
Is-Ganghellor Dros Dro Yr Athro John Grattan, Karina Shaw, Dirprwy-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Miss Gwerfyl Pierce Jones