Mwy o Raddedigion Aber Mewn Gwaith

06 Gorffennaf 2016

Bu cynnydd arall yng nghanran y graddedigion o Brifysgol Aberystwyth sy’n cael swyddi.

Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch (HESA)  yn dangos bod nifer y graddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach wedi codi dros y 12 mis diwethaf.

O’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, fe welodd Aberystwyth gynnydd o ddau y cant a hynny’n uwch na’r cynnydd o un y cant ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Daw’r gwelliant diweddaraf yn sgil naid sylweddol yng nghyfradd cyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth y llynedd ac mae’n rhan o duedd o gynnydd cyson.

Dengys ffigurau  Prifysgol Aberystwyth bod 92% o’n myfyrwyr llawn-amser, gradd gyntaf naill ai mewn gwaith neu astudiaethau pellach a hynny chwe mis ar ôl graddio.

Mae canran myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy’n canfod swyddi safon raddedig hefyd wedi cynyddu wyth y cant, o’i gymharu â chynnydd o dri y cant ar draws y DU.

Pan gawsom ni air gyda’n graddedigion 2015 chwe mis ar ôl iddyn nhw adael, y canfyddiad oedd bod 68.5% ar gyfartaledd mewn swyddi safon raddedig - mae hynny 6 y cant yn uwch na 2014 ac mae’n adeiladu ar y cynnydd arwyddocaol o naw y cant a welwyd y flwyddyn honno.

Mae sawl adran ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweld lefelau uchel o raddedigion yn mynd i mewn i fyd gwaith neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis – a’r ganran yn aml yn uwch ar gyfer cyflogadwyedd y pwnc na’r cyfartaledd ar gyfer y DU.

Mae hyn yn cynnwys yr Adran Gymraeg (100%); yr Adran Gyfrifiadureg (93% o’i gymharu ag 87% ar gyfer y DU); Ieithoedd Modern (93% o’i gymharu ag 88% ar gyfer y DU); Celf (92% o’i gymharu ag 63% ar gyfer y DU); a’r Gyfraith (93% o’i gymharu ag 90% ar gyfer y DU).

“Yma yn Aberystwyth, rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad ac addysg ragorol yn ystod eu cwrs gradd. Ond rydyn ni hefyd yn gwneud ein gorau glas i sicrhau eu bod yn gallu dod o hyd i swyddi da ar ôl graddio,” meddai’r Is-Ganghellor Gweithredol John Grattan.

“Rydyn ni wedi cyflwyno ystod o gynlluniau uchelgeisiol i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y camau pwysig cyntaf hynny yn eu gyrfaoedd ar ôl graddio ac mae’r ffigurau diweddaraf yma i’w rhyddhau gan HESA yn dangos bod ein rhaglenni’n gweithio’n effeithiol er budd graddedigion Aberystwyth.”

Ymhlith y mesurau mae Prifysgol Aberystwyth wedi’u cyflwyno i gynorthwyo myfyrwyr ar y daith o’r coleg i fyd gwaith mae cynllun YmlaenAber ac AberArAlw sy’n cynnig cyfleoedd interniaeth a phrofiad gwaith gyda chyflog tra’u bod yn astudio; ein cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith yn ogystal â’r opsiynau i dreulio blwyddyn integredig mewn diwydiant sy’n cael eu cynnig gan raglenni gradd unigol.

Wedi graddio gyda BSc mewn  Cyfrifiadureg yn 2015, mae Alex Stuart bellach yn gweithio ar lefel raddedig fel Technolegydd Prif Ffrâm Gyfrifiadurol  gydag Experian. Mae e’n dweud bod y flwyddyn a dreuliodd mewn diwydiant fel rhan o’i gwrs gradd wedi bod yn brofiad hynod werthfawr pan ddaeth yn amser chwilio am swydd.

“Yn ystod fy mlwyddyn mewn diwydiant, fe gefais brofiad nid yn unig o weithio mewn swydd dechnegol gymhleth ar ran cwmni rhyngwladol ond hefyd fe wnaeth y cyfnod yma ddiffinio fy agwedd at waith ar gyfer cyflogwyr y dyfodol,” meddai Alex.

“Mae fy swydd bresennol gydag Experian yn cynnwys cyfnod o weithio yn yr UDA felly mae’r ffaith mod i eisoes wedi dangos fy mod yn gallu delio gyda heriau ymfudo a’r rhwystrau diwylliannol all godi wrth weithio dramor wedi helpu fy nghais am y swydd yn ddi-os."

Rydyn ni wedi bod yn siarad gyda rhai o raddedigion eraill Aber i gael gwybod lle maen nhw bellach yn gweithio a pha gyngor sydd ganddyn nhw ar gyfer myfyrwyr presennol. Gallwch ddarllen eu storïau yn ein tudalennau Cyflogadwyedd (https://www.aber.ac.uk/cy/news/employability/) a darganfod mwy am sut y gall ein Gwasanaeth Gyrfaoedd helpu i ddod o hyd i'r swydd ddelfrydol yna.