Dewiniaid Digidol Ar Daith

Y plant o Ysgol Placrug, efo ei robotiaid.

Y plant o Ysgol Placrug, efo ei robotiaid.

01 Gorffennaf 2016

Mae criw o ddisgyblion ifanc wedi bod yn ymweld ag Adran Gyfrifadureg Prifysgol Aberystwyth fel rhan o’u taith diwedd tymor.

Daeth y ‘Dewiniaid Digidol’ o Ysgol Plascrug yn Aberystwyth i’r campws dydd Gwener 1 Gorffennaf i ganfod mwy am yr Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyrfiadureg ac i roi cynnig ar adeiladu robot yn un o’r labordai.

Fe benderfynodd y disgyblion Blwyddyn 6 y bydden nhw’n hoffi gwybod mwy am waith yr Athrofa ar ôl cael gwersi codio cyfrifiaduol yn yr ysgol.

Dywedodd Dr Martin Nelmes, Cymrawd Dysgu yn yr Adran Gyfrifiadureg: "Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Dewiniaid Digidol Ysgol Plascrug ac rydym yn falch dros ben eu bod wedi dewis ymweld â’r Athrofa. Mae’r math hwn o weithgaredd yn hanfodol i ennyn diddordeb a mwynhad dysgwyr ifanc mewn cyfrifiadureg.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnal Clwb Roboteg Aberystwyth. Gyda chefnogaeth yr Arddangosfa Infinity, mae Clwb Roboteg Aberystwyth yn glwb ar ôl ysgol i ddisgyblion 11-18 oed.