Cais Datblygu’r Hen Goleg yn Parhau
Baneri Mary Lloyd Jones yn cwad yr Hen Goleg
30 Mehefin 2016
Mae Cyngor Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau ei fwriad i ail-ddatblygu’r Hen Goleg ac fe fydd cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn cael ei ail-gyflwyno ym mis Rhagfyr 2016, ar ôl i’r cais cyntaf ddod o fewn trwch blewyn i sicrhau cyllid.
Mewn cyfarfod yn yr Hen Goleg (Dydd Mercher 29 Mehefin 2016), cytunodd aelodau’r Cyngor i fwrw mlaen gyda chais y Brifysgol am gymal cyntaf arian datblygu’r porsiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i chalonogi gan yr adborth a gafwyd gan y Gronfa a’i syniadau ar gyfer datblygu’r prosiect ymhellach a, chyda cefnogaeth eang i’r cynlluniau, mae’r Brifysgol yn hyderus y bydd gan gais diwygiedig gyfle ardderchog o gael ei gymeradwyo.
Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: “Roeddem wastad yn ymwybodol bod hon yn rownd gyntaf gystadleuol ac rydym ni felly yn benderfynol o gynnal y momentwm ar gyfer y prosiect ardderchog yma, gan ddarparu llwyfan rhagorol ar gyfer cyfleoedd dysgu, ymchwil a menter a fydd yn ysbrydoli defnyddwyr ac ymwelwyr ac yn rhoi hwb i’r economi.
"O’r hyn rydym ni’n ei ddeall, cafodd y prosiect dderbyniad da ac roedd y penderfyniad yn anad dim yn ganlyniad cyfyngiadau ariannol a gormod o broseictau haeddiannol. Mae prosiectau sy’n llwyddo yn y pendraw yn aml wedi eu hail-gyflwyno mewn ymateb i adborth.”
Fel gwesty y cafodd yr Hen Goleg ei godi’n wreiddiol. Fe gyrhaeddodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn 1872 yn dilyn ymgyrch codi arian aruthrol ledled Cymru i brynu'r adeilad a sefydlu Coleg Prifysgol gyntaf Cymru.
Mae’r Hen Goleg yn adeilad rhestredig Gradd I ac yn cael ei gydnabod fel un o adeiladau mwyaf arwyddocaol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y Deyrnas Gyfunol, yn yr arddull adfywiad Gothig.
Cafodd cais Bywyd Newydd i’r Hen Goleg ei ddatblygu gan y Brifysgol a Bwrdd Prosiect oedd yn dwyn ynghyd aelodau o Gyngor y Brifysgol a staff y Brifysgol, a chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberystwyth, Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a Chymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Aberystwyth.
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, Dr Rhodri Llwyd Morgan: “Wrth ddatblygu’r cynlluniau, cawsom gefnogaeth eang yn lleol ac ymhlith sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol. Dyma brosiect sydd wedi’i ffurfio gan fewnbwn sylweddol o du’r gymuned leol trwy ddigwyddiadau cyhoeddus niferus ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eu cyfraniad allweddol wrth ddatblygu a chefnogi’n gweledigaeth.
“Byddwn yn parhau i weithio ar raglen o weithgareddau amrywiol – tebyg i’r Diwrnod Cymunedol llwyddiannus a gynhaliwyd yn yr Hen Goleg ddydd Sadwrn 18 Mehefin. Byddwn hefyd yn parhau i weithio’n agos gyda Chronfa