Podlediad Refferendwm yr UE

28 Mehefin 2016

Mae canlyniad Refferendwm yr UE wedi codi pob math o gwestiynau. Beth sy’n digwydd nesaf? Beth yw’r oblygiadau i Gymru, i’r Deyrnas Unedig ac i’r Undeb Ewropeaidd?

Yn eu podlediad diweddaraf, mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dod â phanel o arbenigwyr at ei gilydd i drafod rhai o’r prif faterion.

"Yn dilyn pleidlais agos ond ysgytwol, mae pobl Cymru, Prydain a'r byd yn ceisio deall ei goblygiadau. Mewn sefyllfa fel hyn ac mewn cymdeithas ddemocrataidd, mae gan arbenigwyr academaidd rôl bwysig: i helpu deall a dadansoddi'r byd o'n hamgylch," meddai Dyfan Powel sy'n fyfyriwr PhD yn Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth.

"Dyna beth ydyn ni wedi ceisio ei wneud yn ein podlediad diweddaraf lle mae academyddion o'r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol sy'n arbenigo ar wleidyddiaeth Ewrop yn mynd ati ddadansoddi ac esbonio'r hyn a ddigwyddodd, a'r hyn allai ddigwydd yn sgil penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr UE."

Daw’r pedwar siaradwr o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth, gyda Dyfan Powel yn cyflwyno a chadeirio.