Disgyblion yn Camu i Ffau’r Ddraig Aber

Yr enillwyr Thomas Rees-Jones ac Aaron Bull yn dal eu lampau buddugol, gyda'r Dreigiau a staff Prifysgol Aberystwyth

Yr enillwyr Thomas Rees-Jones ac Aaron Bull yn dal eu lampau buddugol, gyda'r Dreigiau a staff Prifysgol Aberystwyth

23 Mehefin 2016

Mewn seremoni gwobrwyo arbennig, cyhoeddwyd enillwyr cystadleuaeth Ffau’r Ddraig Aber a drefnwyd gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer disgyblion chweched dosbarth o Ysgol Penweddig.

Roedd y myfyrwyr wedi cael cyfle i werthu eu syniadau busnes gerbron pump o Ddreigiau ffyrnig ym mis Mai ac mewn digwyddiad neithiwr (Nos Fercher 22 Mehefin), fe gawson nhw gyfle i wylio eu cyflwyniadau a gweld ymateb y Dreigiau ar y sgrîn fawr.

Yr her i’r disgylbion oedd  creu cynnyrch ar thema "Natur" ac fe aeth y wobr gyntaf i  brosiect ar y cyd rhwng Aaron Bull a Thomas Rees-Jones, gyda Ieuan Evans yn ail a Daniel Davies yn drydydd.

Wrth drafod eu partneriaeth creadigol, dywedodd Aaron Bull: "Fe wnaethon ni fwynhau bod yn rhan o’r gystadleuaeth yma’n fawr a dwyn ein prosiect dylunio i ffrwyth. Roedd gorfod sefyll o flaen y pump draig a gwerthu’n syniadau yn brofiad eitha dychrynllyd. Roedd e’n union fel y rhaglen deledu, yn llawn nerfau! Rydym ni wrth ein bodd o fod wedi ennill ac fe fydd y profiad hwn yn sicr yn ein hysbrydoli yn y dyfodol."

Prosiect ar y cyd yw Ffau’r Ddraig Aber rhwng yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ac Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth. Caiff ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda'r nod o ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd a sgiliau busnes.

Yn ôl Gerallt Williams, sy’n athro ym Mhenweddig, bu’n brofiad ysbrydoledig i’r disgyblion.

“Mae wedi dangos sut mae defnyddio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn y dosbarth i ddatblygu cynnyrch go iawn a’r cam nesaf sef mynd â’r cynnyrch hwnnw at y farchnad.

“Bu tri darlithydd o Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth - Robert Bowen, Wyn Morris a Nerys Fullerlove – yn ymweld â’r ysgol i gynnig arweiniad i fyfyrwyr ar ochr fusnes eu cynnyrch cyn iddyn nhw fynd gerbron y Dreigiau ac roedd hynny’n amhrisiadwy."

Dywedodd un o’r trefnwyr o Ysgol Rheolaeth a Busnes Aberystwyth, Robert Bowen, bod y prosiect yn ffordd bwysig o helpu datblygu sgiliau gydol oes.

“Yn dilyn llwyddiant y gystadlueaeth y llynedd gyda disgyblion Ysgol Penglais, cafodd y prosiect ei drefnu’n llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg eleni gyda disgyblion Dylunio a Thechnoleg Ysgol Penweddig. Roedd yn wych gweld y dilyniant wrth i’r myfyrwyr  gymryd y cynnyrch roedden nhw wedi ei ddylunio a’i adeiladu eu hunain, a datblygu gweledigaeth ar gyfer ei ddatblygu’n fusnes.”

“Fel digwyddiad, mae wedi bod yn wych cael gweithio gydag Ysgol Penweddig a’r Adran Astudiaeth Ffilm, Theatr a Theledu’r Brifysgol  TFTS, gan fod gallu ffilmio yn arddull y gyfres deledu a dangos y digwyddiad eto i gynulleidfa fyw yn rhoi dimensiwn  ychwanegol i’r holl beth."

Ymhlith y bobl fusnes leol oedd wedi eu gwahodd i fod yn Ddreigiau roedd Llion Pughe, cyn-fyfyriwr yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes a Chyfarwyddwr Y Gorau o Gymru; Rhiannon Rees, cyn-fyfyriwr yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes a Chyfarwyddwr Rhiannon Rees Property; Sion Edwards, Cyfarwyddwr Aber Letting; Lowri Steffan, actores a pherchennog siop Dots yn Aberystwyth, a James Raw, entrepreneur lleol.

Dywedodd Lowri Steffan: "Roedd y syniadau dylunio a gyflwynwyd gan y myfyrwyr yn ardderchog – yn llawn dychymyg ac yn wirioneddol ysbrydoledig. Y thema oedd natur felly nid y thema hawsaf i’w ddatblygu ond roedd yn amlwg eu bod wedi ystyried eu cysyniadau yn ofalus."