Prifysgol Aberystwyth yn mentro i’r sgwâr reslo

Un o’r paneli yn y sgŵar yn ystod y gynhadledd reslo ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Un o’r paneli yn y sgŵar yn ystod y gynhadledd reslo ym Mhrifysgol Aberystwyth.

21 Mehefin 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi trefnu’r gynhadledd academaidd gyntaf o’i bath ym Mhrydain ar reslo proffesiynol.

Daeth academyddion blaenllaw, newyddiadurwyr a gwneuthurwyr ffilm o bob cwr o Brydain at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad, ynghyd â chyfranwyr o brifysgolion Amsterdam a’r Unol Daleithiau gan gynnwys Athrofa Technoleg enwog Massachussetts (MIT).

Y nod oedd tynnu sylw at faes ymchwil sy’n dod yn fwyfwy amlwg, yn ôl y trefnydd Thomas Alcott - myfyriwr PhD trydedd flwyddyn yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth. 

“Fe roddodd y digwyddiad gyfle i gynadleddwyr ddod at ei gilydd, i rwydweithio a sicrhau ein bod yn datblygu tafodiaith gyffredin ar draws y gwahanol feysydd ymchwil er mwyn i ni ddatblygu astudiaeth cydlynol, aml-ddisgyblaethol o faes reslo proffesiynol.”

I adlewyrchu arddull y gamp, cafodd stiwdio yn adeilad Parry-Williams ei throi yn arena reslo retro gyda sgwâr a goleuo pwrpasol yn creu llwyfan perffaith i fynd i’r afael â’r datblygiadau diweddaraf yn y maes.

“Ymhlith y pynciau amrywiol a drafodwyd oedd y cynrychiolaethau gwahanol – gan gynnwys hunaniaeth menywod – sydd i’w cael oddi mewn i reslo proffesiynol; economi gwleidyddol reslo, a reslo proffesiynol fel drama foes gyfoes,” meddai Thomas.

“Ein prif siaradwr oedd yr Athro Peter Hutchings a fu’n trafod perfformiad a gormodiaith, a rôl Dwayne ‘The Rock’ Johnson o fewn y gamp.”

Yn ystod deuddydd prysur,17-18 Mehefin, fe welwyd pump panel o siaradwyr yn trafod yn y sgwâr yn ogystal â pherfformiadau theatrig a ffilmiau dogfen.

Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath i ddwyn ynghyd ysgolheigion o’r maes i drafod eu gwaith a lleisiau eraill o’r tu allan i’r byd academaidd fel y newyddiadurwr a’r podledwr James Truepenny a’r dramodydd a’r cyfarwyddwr theatr Alex Brockie.

Dywedodd Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, y Dr Anwen Jones: “Mae’n myfyrwyr PhD yn gwneud cyfraniad allweddol tuag at ddatblyu meysydd ymchwil ysgholheigaidd ac ‘roeddwn i’n falch iawn gallu cynnig llwyfan i’r gwaith arloesol yma ar reslo proffesiynol – maes nad sy’n aml yn cael ei gysylltu gydag astudiaethau academaidd.”

Cafodd y digwyddiad gefnogaeth Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol, a Chanolfan Uwchraddedig Prifysgol Aberystwyth gyda chymorth gan dîm technegol yr Adran Astudiaethau Theatr , Ffilm a Theledu.

AU20216