Darlithydd o Aberystwyth yn curadu Blwch Du Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin

Lizzie Borden’s Regrouping (1976). Copyright: UCLA Film and Television Archive

Lizzie Borden’s Regrouping (1976). Copyright: UCLA Film and Television Archive

15 Mehefin 2016

Darlithydd mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth, Dr Kim Knowles, sy’n curadu cangen raglennu enwog y Black Box yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin, sy’n dechrau heddiw ac yn para tan ddydd Sul, 26 Mehefin.

Mae’r Black Box, sy’n dangos y gorau ym maes creu ffilmiau arbrofol, yn cyfuno gweithiau newydd dyfeisgar ac ysgogol â gweithiau ôl-syllol a digwyddiadau arbennig. Caiff ei gefnogi gan Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth a LUX yr Alban.

Ar ôl cwblhau PhD mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Caeredin yn 2007, ymunodd Kim â’r Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2011. Hon yw’r wythfed flwyddyn iddi guradu’r Black Box yn yr ŵyl.

Meddai: “Un o bleserau mwyaf bywyd yw gallu rhannu'r hyn sy’n bwysig i chi â phobl eraill ac rwy’n dal i fod yr un mor gyffrous ynglŷn â dod â gweithiau newydd a dyfeisgar gerbron cynulleidfaoedd ag yr oeddwn yn fy mlwyddyn gyntaf, yng nghyfnod gwylio ffilmiau ar dapiau VHS!”

“Rwy’n dwli cael y cyfle i ddod â chynulleidfaoedd i faes sydd wir wedi’i dan-gynrychioli ym myd creu ffilmiau, a gallu rhoi rhywbeth yn ôl i bobl sy’n dilyn trywydd eu celfyddyd yn angerddol ar ymylon maes mwy masnachol cynhyrchu ffilmiau.”

Meddai Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, Dr Anwen Jones: “Mae’r Adran yn hynod falch bod arbenigedd a brwdfrydedd Kim wedi arwain at y cyswllt hwn â’r Ŵyl Ffilmiau. Mae gwaith Kim wedi bod o fantais uniongyrchol i dri o fyfyrwyr yr adran sydd wedi cael tocynnau diwydiannol i’r achlysur, ac mae’n amhrisiadwy i staff a myfyrwyr yr adran i gael mynediad a phresenoldeb mewn achlysur o’r statws a’r arwyddocâd hwn.”

Ar gyfer y Black Box eleni, dewisodd Kim gyfres gyffrous o weithiau newydd ac archwiliadau hanesyddol. O’r haniaethol chwareus i’r gwleidyddol, mae’r amserlen yn cynnwys pedair rhaglen o ffilmiau byrion, yn ymwneud â’r corff a thechnoleg, teithiau a darganfyddiadau, defod a thrawsnewid, a materion amgylcheddol.

Yng nghyd-destun pen-blwydd yr Ŵyl yn 70, mae’r Black Box hefyd yn ail-ymweld â’r 1970au, gan gyflwyno dwy ffilm sy’n edrych yn ôl ac achlysur arbennig yn dathlu un o’r cyfnodau pwysicaf yn hanes yr Ŵyl.

Un o’r uchafbwyntiau fydd dangos ffilm Lizzie Borden, Regrouping, am y pedwerydd tro yn unig. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yn yr Ŵyl yn 1976. Mae Regrouping yn troi yr hyn a ddechreuodd yn ffilm ddogfen am grŵp o fenywod yn awyrgylch ffeministaidd cyffrous yr ail don yn Efrog Newydd yn ffilm-o-fewn ffilm, ffurfiol gymhleth a hunan-fyfyriol. Mae Borden yn fwyaf adnabyddus am ei gweithiau ffeministaidd digyfaddawd, Born in Flames (1983) a Working Girls (1986). Mae’r dangosiad hwn o’i ffilm nodwedd gyntaf yn ddigwyddiad o bwys sydd wrth galon y Black Box ôl-syllol, sef cyfres o ddigwyddiadau a dangosiadau yn dathlu creu ffilmiau ffeministaidd ac avant-garde yn y 1970au.

Yn ôl Kim, y curadur: "Mae’n wych gallu dangos ffilm Borden, Regrouping, am y pedwerydd tro yn unig yn ei hanes. Bydd llawer o bobl yn gyfarwydd â’r clasur ffeministaidd, Born in Flames, ond cafodd ei ffilm nodwedd gyntaf ei chadw dan glo am ddeugain mlynedd oherwydd y gwrthdaro a gododd wrth greu’r ffilm. Mae’r estheteg arbrofol a’r ffocws ar ffeministiaeth, rhywioldeb, a natur gynulliadol yn clymu ynghyd y materion a drafodwyd yn yr Ŵyl trwy gydol y 1970au. Mae hwn yn ychwanegiad ardderchog at y Black Box ac yn ddathliad o ymrwymiad tymor-hir yr Ŵyl Ffilmiau i ddulliau gwahanol o greu ffilmiau.”

Hefyd yn cael eu dangos am y tro cyntaf mae dwy ffilm nodwedd flaengar: Sixty Six, sef collage ffantasi o effemera 1906au gan yr eicon avant-garde Americanaidd, Lewis Klahr, a Tectonic Plate gan Mike Taanila, ffilm ddi-gamera, feiddgar sy’n canfod iaith wahanol i fapio taith bryderus mewn awyren o Tokyo i Helsinki.

 

AU19116