Dyfarnu MBE i Dr Rhian Hayward yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2016

Dr Rhian Hayward

Dr Rhian Hayward

13 Mehefin 2016

Dyfernir MBE i Dr Rhian Hayward, Rheolwr Datblygu Busnes yn Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2016.

Dr Hayward sy’n gyfrifol am gyfnewid gwybodaeth gyda’r gymuned fusnes a throsglwyddo technoleg yn y brifysgol, a rhoddir yr MBE iddi am wasanaethau i Entrepreneuriaeth yng Nghymru, a chyflwynir y dyfarniad gan aelod o’r teulu brenhinol mewn arwisgiad yn ystod 2016.

Mae cyfraniadau Dr Hayward i entrepreneuriaeth yng Nghymru yn benodol yn gyfuniad o’i rôl ym Mhrifysgol Aberystwyth ynghyd â phenodiadau cyhoeddus i Lywodraeth Cymru fel bod yn aelod o Fwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru sy’n cynghori Gweinidogion ac Uwch Swyddogion Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag economi Cymru, a hefyd Bwrdd Ymgynghorol Gwyddonol Cronfa Pontio Gwyddorau Bywyd.

Yn ei rôl Datblygu Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth, datblygodd Dr Hayward strategaeth y brifysgol ar gyfer cyswllt allanol â busnesau, gan gynnwys partneriaethau strategol gyda diwydiant, trwyddedu a ffurfio cwmnïau deillio, gyda’i thîm yn helpu busnesau ac entrepreneuriaid i fanteisio ar hyfforddiant, ymchwil a datblygu ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a chyflwyniadau i adeiladu rhwydweithiau ar gyfer cydweithio.

Mae hefyd wedi bod yn feirniad ar nifer o gystadlaethau busnes yng Nghymru, yn fwyaf diweddar cystadleuaeth cynllunio busnes Boost Cymru ar gyfer cwmnïau Gwyddorau Bywyd.

Dywedodd Dr Hayward am y dyfarniad ‘Rwy’n ei theimlo’n anrhydedd ac rwyf i’n falch iawn i gael fy nghydnabod am wasanaethau i entrepreneuriaeth yng Nghymru. Mae llawer o bobl weithgar yn canolbwyntio ar ein hentrepreneuriaeth ranbarthol ac rwyf i’n falch iawn i gynrychioli eu hymdrechion cyfunol.’

Dywedodd yr Is-Ganghellor Dros Dro, yr Athro John Grattan: "Mae’r Dr Rhian Hayward wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ymdrechion Prifysgol Aberystwyth i ymgysylltu’n allanol gyda diwydiant. Mae hi hefyd wedi cael llwyddiant mawr wrth weithio i gefnogi’r gymuned fusnes ehangach yng Nghymru. ‘Rwyf yn hynod falch bod bod ei chyfraniad i entrepreneuriaeth wedi cael ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines yn 90 oed ac fe hoffem gynnig llongyfarchiadau gwresog iddi ar gael ei dewis ar gyfer y wobr arbennig yma."

Daw Dr Hayward yn wreiddiol o Abertawe, a chafodd radd BSc (dosbarth cyntaf) o Goleg King’s Llundain, cyn gweithio mewn nifer o rolau masnachol gan gynnwys rheoli prosiect, marchnata a datblygu busnes mewn cwmnïau newydd a deillio yn ne ddwyrain Lloegr, gan gynnwys cwmnïau fel Sense Proteomic Ltd, Procognia Ltd ac Abcam plc.

Enillodd Dr Hayward ei gradd DPhil ym Mhrifygol Rhydychen a bu’n ymgymryd ag ymchwil ôl-ddoethurol yn y National Institutes of Health, U.D.A.

Symudodd i ardal Aberystwyth yn 2007 a sefydlu cwmni ymgynghori oedd yn cynghori buddsoddwyr, prifysgolion a busnesau bach a chanolig ar fasnacheiddio technolegau gwyddor bywyd cynnar, gan helpu llawer o entrepreneuriaid, buddsoddwyr a chwmnïau newydd gyda chynllunio busnes, codi arian a datblygu technoleg.