Cam arall ymlaen tuag at sefydlu Canolfan Ragoriaeth Filfeddygol yn Aberystwyth
Chwith i'r dde: Christianne Glossop Chief Vet, Lesley Griffiths AM, Yr Athro Chris Thomas a Yr Athro Mike Gooding.
13 Mehefin 2016
Mae cynlluniau i sefydlu rhaglen benodol i hyfforddi milfeddygon y bydd Prifysgol Aberystwyth yn rhan ohoni gam yn nes heddiw, yn dilyn cyhoeddiad gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Mae Prifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn dod at ei gilydd i ddatblygu rhaglen meddygaeth filfeddygol ar y cyd wedi'i deilwra i anghenion iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.
Yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) y Brifysgol ddydd Llun 13 Mehefin 2016, cyhoeddodd y Gweinidog fod Prifysgol Aberystwyth a'r Coleg Milfeddygol Brenhinol (Prifysgol Llundain) wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth i edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu menter ar y cyd i ddarparu hyfforddiant meddygol ac ymchwil milfeddygol yng Nghymru, a fydd yn canolbwyntio ar ffermio a gwyddor da byw. Nid oes darpariaeth addysg filfeddygol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
"Mae addysg filfeddygol i Gymru wedi bod yn destun trafod ers tro, ac mae’r uchelgais hon bellach yn cael ei gwireddu. Mae'r fenter gydweithredol hon rhwng Prifysgol Aberystwyth a'r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn newyddion ardderchog i ffermwyr Cymru ac i'r proffesiwn milfeddygol. Bydd yn darparu canolbwynt o arbenigedd milfeddygol y mae angen dirfawr amdano, yng nghalon ein prifysgol hynaf. Mae'r prosiect hwn hefyd yn bodloni llawer o'n hamcanion Lles, gan gyfrannu’n benodol at greu Cymru iach, gwydn a llewyrchus."
Fel prifysgol hynaf Cymru, mae gan Aberystwyth hanes hir o ragoriaeth mewn ymchwil ac addysgu ym meysydd amaethyddiaeth a gwyddorau anifeiliaid. Dechreuwyd dysgu’r pwnc am y tro cyntaf yn Aberystwyth yn yr 1870au, ac agorwyd yr Adran Amaethyddiaeth yn 1891. Mae’r cyswllt yn parhau hyd heddiw yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), a gyflwynodd radd newydd mewn Biowyddorau Milfeddygol yn 2015.
Sefydlwyd y Coleg Milfeddygol Brenhinol, Llundain yn 1791 a dyma’r ysgol filfeddygol hynaf yn y byd Saesneg ei iaith. Mae hefyd yn un o'r rhai uchaf ei bri; fe’i gosodwyd ymhlith y tair ysgol filfeddygol orau yn y byd yn y QS World University Rankings diweddaraf. Mae’n cynnig graddau meddygaeth a nyrsio milfeddygol o fri ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal ag ymchwil o safon fyd-eang.
Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth ac arweinydd y prosiect yn Aberystwyth: "Rydym yn rhannu uchelgais y proffesiwn milfeddygol, Llywodraeth Cymru a'r diwydiant ffermio i sicrhau a gwella iechyd anifeiliaid yng Nghymru a thu hwnt. Credwn fod angen model ar gyfer hyfforddiant a gwyddor filfeddygol yng Nghymru sydd nid yn unig yn ategu meddygaeth filfeddygol ar gyfer anifeiliaid cynhyrchu, ond sydd hefyd yn integreiddio darpariaeth gwasanaethau milfeddygol, gwyddor amaethyddol, lles y gymuned wledig, economeg a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae cael datblygu’r weledigaeth hon mewn partneriaeth â'r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn wirioneddol gyffrous.
Dywedodd yr Athro David Church, Is-Brifathro Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr y Coleg Milfeddygol Brenhinol, sy'n arwain y prosiect yn Llundain: "Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o'r Prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Gyfunol sy’n cynnig arbenigedd yn y gwyddorau anifeiliaid ac amaethyddol. Credwn fod cyfleoedd gwirioneddol i’r Coleg Milfeddygol Brenhinol i weithio gydag Aberystwyth ar sawl lefel i ddatblygu rhaglen radd filfeddygol wedi'i theilwra ar gyfer anghenion y diwydiannau ffermio ac iechyd anifeiliaid yng Nghymru. Rydym yn hynod falch o gael bod yn rhan o'r fenter gydweithredol hon.
Dywedodd yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: "Byddai rhaglen hyfforddi filfeddygol ar y cyd rhwng Aberystwyth a'r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn ddatblygiad gwych i Gymru. Bydd yn cynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol ym maes meddygaeth filfeddygol sydd wedi’i theilwra ar gyfer ein hanghenion, ac yn darparu canolbwynt o ragoriaeth filfeddygol a fydd yn uniongyrchol berthnasol i Gymru.
Dywedodd yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru "Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous, nid yn unig i feddygaeth filfeddygol yng Nghymru ond hefyd gan y bydd yn darparu ffocws ar gyfer ymchwil a datblygu masnachol mewn sector sydd mor bwysig i economi Cymru."
Bydd gweithgor o arbenigwyr o IBERS a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn mynd ati nawr i ddylunio'r rhaglen ar y cyd a nodi cyfleusterau newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r tîm yn bwriadu cyflwyno ei adroddiad i gyrff llywodraethu’r ddau sefydliad erbyn mis Awst 2017.