Darganfyddiad Tîm o Gymru yn yr Antarctig
Darlun o'r sgafell iâ: Larsen C
10 Mehefin 2016
Mae tîm ymchwil rhyngwladol dan arweiniad academyddion o Brifysgolion Aberystwyth ac Abertawe yn cyhoeddi ymchwil arwyddocaol heddiw sy'n rhoi goleuni newydd ar un o ffenomenau naturiol mwyaf y byd. Mae sut mae sgafelli iâ yn cael eu ffurfio yn gallu cynnig tystiolaeth bwysig ynghylch sut mae ein hinsawdd wedi datblygu a sut y bydd yn datblygu yn y dyfodol. Serch hynny, tan yn ddiweddar, bu'n hynod anodd cael gafael ar ddata gwerthfawr oherwydd yr anawsterau mawr a geir wrth geisio gweithio ar dirwedd garw'r sgafelli iâ.
Roedd y tîm o ymchwilwyr, o brifysgolion yng Nghymru yn bennaf, yn awyddus i fynd i ddrilio i un o sgafelli iâ mwyaf Antarctica o'r enw Larsen C, sef sgafell iâ arnofiol sydd tua dwywaith a hanner maint Cymru. Gyda chymorth logistaidd Arolwg Antarctig Prydain, fe aethon nhw ati i sefydlu gorsaf ar y sgafell a gwneud gwaith sydd bellach yn darparu gwybodaeth hanfodol ar sut mae sgafelli iâ yn ymateb wrth i'r hinsawdd dwymo ynghyd â gwybodaeth hanfodol ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
Mae'r Athro Bryn Hubbard, Cyfarwyddwr Canolfan Rewlifeg, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, yn dweud bod cyrraedd y sgafell iâ yn y lle cyntaf yn gamp.
“Mae'r llefydd yma yn eu hanfod yn hynod arw, gyda’r tymheredd o dan y rhewbwynt a'r amodau dan draed yn anodd. O ganlyniad, mae glanio awyrennau yno gyda'n holl gyfarpar ymchwil a'n timoedd cymorth yn fusnes anodd. Buom yn ffodus iawn i gael cymorth Uned Awyr a Thywyswyr Maes Arolwg Antartig Prydain ac roedd eu harbenigedd yn amhrisiadwy o ran sicrhau llwyddiant y prosiect yn ogystal â’n diogelwch.”
Y gred gyffredinol oedd bod yr iâ yn y strwythurau hyn yn ffurfio'n raddol ryw 50-60 metr i lawr yn y sgafell, ond ar ôl i'r tîm o Gymru ddechrau drilio fe ddaethpwyd o hyd i iâ dri metr i lawr yn unig. Roedd hynny ynddo'i hun yn ddarganfyddiad o bwys yn ôl yr Athro Hubbard.
“Dwi’n meddwl ei bod hi'n deg dweud i ni i gyd synnu braidd pan wnaethom ni daro’r iâ mor gyflym, gan fod hyn yn gwrthddweud yn llwyr ein cysyniadau blaenorol o sut mae iâ yn ffurfio o fewn y sgafell. Rydym yn credu bod newid yn yr hinsawdd wedi chwarae rhan yn hyn oherwydd bod y rhan hon o Antarctica yn benodol wedi cael ei dwymo dipyn yn enwedig yn y degawdau diweddar. Ond, pwysicach byth yw'r ffaith y bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i fodelu'n gyfrifiadurol yn y dyfodol a deall sut y bydd y ffurfiau iâ hyn yn newid o dan gwahanol sefyllfaoedd posib wrth i'r hinsawdd newid. Mae'n bosib bod hyn yn ddarganfyddiad sy'n torri tir newydd o ran adeiladwaith sgafelli iâ ar draws Antarctica.”
Fe dreuliodd y tîm ymchwil dros ddau fis ar y sgafell iâ yn casglu gwybodaeth mewn tymheredd oedd yn amrywio rhwng -5 ac -20 gradd Celsius. Yn ogystal â'r timoedd o Aberystwyth ac Abertawe, roedd presenoldeb o ogledd Cymru hefyd gan fod yr offer arbenigol a ddefnyddir i gasglu delweddau cydraniad-uchel o'r tyllau wedi'i wneud gan y cwmni Robertson Geologging o Ddeganwy.
Caiff canlyniadau'r ymchwil eu cyhoeddi heddiw (10 Mehefin 2016) yn y cyfnodolyn defnydd-agored ac uchel ei barch, Nature Communications.
Yn ddiweddar, dyfarnwyd Medal y Pegynnau uchel ei bri i'r Athro Bryn Hubbard ac mae e’n ymuno â'r rhestr o dderbynwyr clodwiw eraill sy'n cynnwys y Capten Robert F Scott, Syr Ernest Shackleton a Syr Edmund Hillary.