Ymchwil newydd yn anelu at gefnogi menywod i feithrin hyder i ‘dorri’r nenfwd gwydr’

Saffron Passam

Saffron Passam

08 Mehefin 2016

Yr wythnos hon, cyhoeddwyd prosiect ymchwil newydd sy’n anelu at chwalu’r rhwystrau i fenywod sy’n dymuno cyrraedd brig y gwasanaeth sifil. Mae’r astudiaeth yn ffrwyth partneriaeth allweddol rhwng Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth a’r Swyddfa Gartref yng Nghymru wrth iddynt gytuno i gydweithio er mwyn adnabod a dileu rhwystrau i ddyheadau menywod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

Mae gan Gymru hanes hir o gefnogi amrywioldeb trwy raglenni ehangu mynediad, ond er gwaethaf gwelliannau i fenywod yn gyffredinol a’r rheiny o gefndiroedd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, nid yw’r cynnydd hwn eto wedi llwyddo i gyrraedd y rheiny o gefndiroedd llai breintiedig.

Yn ôl Saffron Passam o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, gallai’r gwaith pwysig a gwerthfawr hwn baratoi’r ffordd ar gyfer cyfleoedd newydd i fenywod yn y dyfodol:

“Gwyddwn fod y gwasanaeth sifil wedi ymrwymo i’r egwyddor o recriwtio ar sail teilyngdod, ond mae’r gwaith ymchwil yn dangos fod pobl o’r cefndiroedd tlotaf wedi’u tangynrychioli yn y rhaglen Llwybr Carlam. Ar ben hynny, canfu adroddiad Ymddiriedolaeth Sutton, Leading People (2016), mai 23% yn unig o uwch-weithwyr y gwasanaeth sifil aeth i ysgol gyfun, ac mai 7% yn unig a fynychodd brifysgolion heblaw’r 30 prifysgol orau.

“Ein nod gyda’r prosiect newydd hwn yw adnabod y rhwystrau i fenywod o’r grwpiau hyn, ac ystyried sut y gellir eu goresgyn yn effeithiol.”

Fel rhan o’r prosiect ymchwil, bydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i ymchwilio i’r rhwystrau all lesteirio datblygiad gyrfa. Bydd camau olaf y prosiect hefyd yn cynnwys gweithwyr o’r Swyddfa Gartref a myfyrwyr sy’n mynychu rhaglenni Prifysgol Haf Aberystwyth ac AberYmlaen.

Ychwanegodd Joanne Hopkins, Pennaeth Tîm y Swyddfa Gartref yng Nghymru ac uwch-noddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhyw y Swyddfa Gartref:

“Mae hon yn astudiaeth bwysig a fydd yn ein helpu i ddeall yn well y rhwystrau a wynebir gan fenywod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, ac yn eu rhwystro rhag cael swydd yn y gwasanaeth sifil a datblygu yn uwch-arweinwyr. Bydd y dull seicolegol unigryw a gymerwn yn ein galluogi i edrych ar symudedd cymdeithasol o safbwynt newydd, a chynorthwyo’r gwasanaeth sifil i gyflawni un o’i flaenoriaethau o ran amrywiaeth.”

Bydd canfyddiadau’r prosiect yn cyfrannu at ddatblygiad polisi y Deyrnas Unedig, sy’n anelu at gynyddu niferoedd y menywod o gefndiroedd difreintiedig sy’n ymuno â’r gwasanaeth sifil, a manteisio ar sgiliau unigryw a photensial y grŵp hwn.