Iestyn Tyne yn cipio Coron Eisteddfod yr Urdd

Iestyn Tyne. Credit: Urdd Gobaith Cymru

Iestyn Tyne. Credit: Urdd Gobaith Cymru

03 Mehefin 2016

Llongyfarchiadau mawr i Iestyn Tyne, myfyriwr blwyddyn gyntaf yn Adran y Gymraeg ar ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint.

Daeth i’r brig gyda saith darn o ryddiaith a llên micro sy'n dilyn hanes Adar a'i deulu o geiswyr lloches, Andy sy'n trawswisgo am y noson i gael ymlacio efo'i ffrindiau, ac Alize sy'n cyfarfod hunan-fomiwr yn y ddawns ym Mharis

'Gorwelion' oedd thema'r gystadleuaeth eleni, ac yn ôl y beirniaid, Aled Lewis Jones a Jane Jones Owen, roedd gwaith Iestyn sy’n hanu o Ben Llŷn yn "gyfrol lachar gyda sawl gorwel cyfoes a chyfredol".

Wrth draddodi, dywedodd y beirniaid, “Mae’r casgliad yn llawn o bobl yr ymylon a thrwy ddawn y llenor medrwn uniaethu â’u sefyllfa.  Ceir rhychwant llachar o olygfeydd ac o gyweiriau ysgrifennu, a chysondeb yn safon pob un o’r darnau.  Fe deimlodd y ddau ohonom y byddai’r defnydd amrywiol hwn at ddant darllenwyr ifanc, ac yn rhwydo darllenwyr newydd at y Gymraeg oherwydd amrywiaeth ddifyr y gorwelion yn eu gwaith.”

Mae'r goron yn cael ei gwobrwyo am ysgrifennu'r darn neu ddarnau o ryddiaith gorau dros 4,000 o eiriau a daeth 14 ymgais i law eleni.