Cyhoeddi rhifyn diweddaraf y Ddraig
Myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol gyda Hanna Merrigan, Llywydd UMCA a Dr Rhianedd Jewell
27 Mai 2016
Mae rhifyn diweddaraf Y Ddraig, cylchgrawn llenyddol Adran y Gymraeg y Brifysgol a gynhyrchir gan fwrdd golygyddol myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol y flwyddyn gyntaf wedi’i gyhoeddi. Rhy'r dasg hon gyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gwerthfawr gan mai nhw sy'n gyfrifol am gomisiynu'r cyfraniadau, golygu'r cynnwys a marchnata'r cynnyrch.
Meddai Dr Rhianedd Jewell, darlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol: “Mae cynnwys rhifyn 2016 yn gyfoethog iawn unwaith eto gydag amrywiaeth o gerddi, straeon byrion ac adolygiadau gan fyfyrwyr a staff y Brifysgol. Eleni hefyd ceir cyfweliadau â'r awduron, Sian Rees a Sonia Edwards, yn ogystal â cherddi gan Gruffudd Antur ac Eurig Salisbury."
Hanna Merrigan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) lansiodd rifyn eleni yn swyddogol ac mae ganddi gof clir o'r profiad o olygu'r Ddraig gan iddi raddio mewn Cymraeg Proffesiynol y llynedd. Meddai Hanna; "Mae Adran y Gymraeg wedi rhoi'r sylfaen imi feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnaf i weithio yn y Gymru gyfoes, a dwi'n siŵr y byddai myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol eleni yn cytuno gyda mi bod y gwerth maent wedi ei gael o greu cylchgrawn wedi datblygu nifer fawr o sgiliau. Mae'n hi'n amlwg o ddarllen rhifyn eleni bod y myfyrwyr sy'n byw trwy gyfrwng y Gymraeg yn Aberystwyth yn cael amser da iawn, ac mae'n wych o beth bod Adran y Gymraeg yn rhoi'r platfform i fyfyrwyr ddechrau ar eu teithiau llenyddol trwy gyhoeddi Y Ddraig yn flynyddol."
Yn sgil ei lwyddiant, cynhelir Cynhadledd Cymraeg Proffesiynol arall ar 8 Hydref eleni a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr chweched dosbarth ddysgu mwy am y cwrs gradd unigryw hwn. Gellir archebu lle yn y gynhadledd drwy gysylltu â Dr Jewell (manylion islaw).
Gellir archebu copi o gylchgrawn Y Ddraig am £3 drwy gysylltu ag Adran y Gymraeg drwy e-bostio cymraeg@aber.ac.uk.