Myfyrwyr ymrysona Prifysgol Aberystwyth yn mynd i'r Goruchaf Lys
Tu fewn Llys 1 yng Ngoruchaf Lys y Deyrnas Unedig. Llun: David Iliff. Trwydded: CC-BY-SA 3.0
25 Ebrill 2016
Bydd myfyrwyr o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn cael y cyfle i arddangos eu doniau ymryson o flaen Ustus yn y Goruchaf Lys.
Mae Aberystwyth yn un o ddeuddeg ysgol graddedigion y gyfraith a chymdeithasau’r gyfraith mewn prifysgolion sydd wedi cael eu gwahodd i gynnal rownd derfynol eu cystadleuaeth ymrysona yng Ngoruchaf Lys y Deyrnas Unedig yn Llundain.
Mewn cystadleuaeth Ymryson, bydd dau bâr yn dadlau achos apêl gyfreithiol ffuglennol o flaen barnwr mewn achos llys ffug. Ni fydd llwyddiant o reidrwydd yn deillio o ennill yr achos cyfreithiol, ond yn hytrach o ansawdd cyflwyniad y dadleuon cyfreithiol.
Ar ôl cystadlu mewn sawl rownd o ymrysonau a dadlau yn ystod y flwyddyn, cystadleuwyr rownd derfynol Cystadleuaeth Ymryson Fewnol Prifysgol Aberystwyth yw: Jake Moses (2il flwyddyn LLB yn y Gyfraith), Petranka Malcheva (3edd flwyddyn BA yn y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth Ryngwladol), Madeleine Griffiths (2il flwyddyn LLB yn y Gyfraith) a Sean Kane (3edd flwyddyn LLB yn y Gyfraith).
Bydd y rownd derfynol, a gynhelir ddydd Mercher 27 Ebrill, yn cael ei beirniadu gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Hughes o Ombersley, Ustus yn y Goruchaf Lys. Bydd enillydd y gystadleuaeth yn cael gwahoddiad i dymor prawf byr yn Siambrau Iscoed yn Abertawe.
Dywedodd Jake Moses, o Drefyclo ym Mhowys, sy’n fyfyriwr LLB y Gyfraith yn ei ail flwyddyn, ac a fydd yn cynrychioli’r diffynnydd yn yr ymryson: 'Rwy’n hynod ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth ac yn arbennig i’r Gymdeithas Ymryson am y cyfle hwn. Mae’n wir yn brofiad unwaith mewn oes.'
Dywedodd yr Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: 'Rydym yn hynod falch o Gymdeithas Ymryson yr Adran. Mae ganddi ran bwysig ym mywyd a gwaith yr Adran. Dros y blynyddoedd, mae’r Gymdeithas wedi cael nifer o lwyddiannau mewn cystadlaethau dadlau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys bod yn bencampwyr presennol Cymru. Mae ei haelodau yn gweithio’n galed i hyrwyddo gwerth ymrysona a dadlau i fyfyrwyr ar bob cam o’u hastudiaethau yn Aberystwyth. Rydym yn falch iawn fod rownd derfynol ein cystadleuaeth ymryson fewnol yn mynd i gael ei chynnal yn y Goruchaf Lys yn Llundain. Bydd yn brofiad gwych i’r cystadleuwyr yn y rownd derfynol, a dymunaf y gorau iddyn nhw.'
Mae Cymdeithas Ymryson Prifysgol Aberystwyth yn agored i bob myfyriwr o Adran y Gyfraith a Throseddeg. Mae’r gymdeithas yn rhoi cyfle i aelodau ddatblygu eu sgiliau ymrysona drwy gyfres o weithdai hyfforddi a chystadlaethau Ymryson.