Myfyriwr Prifysgol Aberystwyth ar restr fer Gwobr Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn
Mazhar Shar
22 Ebrill 2016
Mae un o fyfyrwyr Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, Mazhar Shar, ymhlith y deg sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau Targetjobs ar gyfer Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn ym maes Cyfrifiadureg a Dadansoddeg.
Mae cystadleuaeth flynyddol gwobrau Targetjobs am Fyfyrwyr Israddedig y Flwyddyn yn dathlu israddedigion disgleiriaf Prydain mewn deuddeg o gategorïau, gyda phob gwobr yn cael ei noddi gan gwmni gwahanol. Mae'r gwobrau yn cynnwys lleoliadau gwaith a chyfleoedd unigryw i fynd ar deithiau dramor.
Mae gwobr Cyfrifiadureg a Dadansoddeg a noddir gan Expedia, yn cael ei dyfarnu i rywun sydd â meddwl chwilfrydig a'r gwroldeb i herio'r sefyllfa sydd ohoni, ac sy'n gallu dangos eu hymroddiad i arloesi a'u hawydd i chwilio am gyfleoedd newydd.
Taith un wythnos i bencadlys Expedia yn Seattle yw'r wobr, cyfle i ymuno ag un o'i dimoedd technoleg yn UDA, ac i fynd i farbeciw interniaid Prif Weithredydd Expedia.
Mae'r broses ymgeisio yn hir a heriol, yn cynnwys prawf ar grebwyll sefyllfaol, holiadur personoliaeth galwedigaethol, prawf ar resymu anwythol, ymarfer grŵp, a chyfweliad.
Ac yntau'n hanu'n wreiddiol o Faridabad, Bacistan, cafodd Mazhar ei fagu ym Mryste ac erbyn hyn y mae yn ei drydedd flwyddyn o gwrs pedair blynedd, sy'n cynnwys blwyddyn ryng-gwrs, yn astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ei flwyddyn gyntaf fe aeth i 'AppCamp' cwmni Kainos ac yn sgil hynny fe gyhoeddodd ap yn siop apiau iOS. Nod yr ap, o'r enw Lift Me Up, yw hybu hapusrwydd ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Mae'n rhoi modd i'r defnyddiwr gofnodi a dilyn trywydd eu hwyliau a'u teimladau, ac yn cynnig ysbrydoliaeth drwy roi negeseuon a dyfyniadau sy'n berthnasol i hwyliau'r defnyddiwr.
Ar ôl treulio ei ail flwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Ottawa yng Nghanada, mae Mazhar nawr ar ei Flwyddyn mewn Diwydiant gyda'r cwmni DCA Design International Ltd yn Warwick yn gweithio fel Peiriannwr Meddalwedd Mewnblannu.
Dywedodd Mazhar: "Mae cael fy rhoi ar y rhestr fer am y wobr hon yn cadarnhau bod rhywfaint, o leiaf, o'r hyn rydw i'n ei wneud yn fuddiol a blaengar. Mae hynny'n bwysig i mi achos bod fy ngweithgareddau a'm hagwedd yn llywio fy llwyddiant a bod fy effeithiolrwydd yn esiampl i eraill.
“Mae'r ffaith imi gael fy newis i fod ymhlith y deg olaf ar gyfer y wobr hon yn deillio o'r cymorth a'r gefnogaeth rwy wedi'u cael ar hyd y ffordd, a'r cyfleoedd a roddwyd imi ym Mryste, Aberystwyth, Canada a lleoedd eraill.
“Rwy'n credu bod llawer o bobl yn meddwl am y math hwn o lwyddiant fel rhywbeth sydd y tu hwnt i'w cyrraedd. Ond mae'n broses y gallai pawb fynd amdani. Yn wir, ar y cychwyn roeddwn i am roi'r ffidil yn y to, a bu bron imi beidio â gwneud cais o gwbl."
Dywedodd y Dr Bernard Tiddeman, Pennaeth yr Adran Cyfrifiadureg: “Rydym ni wrth ein bodd bod Mazhar wedi'i roi ar y rhestr fer am y wobr hon, wrth gwrs. Mae Mazhar yn fyfyriwr eithriadol, a wnaeth yn benigamp yn ei flwyddyn gyntaf yma yn Aberystwyth ac mae wedi parhau â'i berfformiad dosbarth cyntaf yn ei ail flwyddyn a dreuliodd yn astudio ym Mhrifysgol Ottawa. Ac yntau'n fyfyriwr nad oedd yn gallu rhaglennu tan ei flwyddyn gyntaf yn Aberystwyth, mae wedi cael llwyddiannau mawr - ar ben ei raddau academaidd ardderchog, mae wedi datblygu ei ap ei hun ac wedi cyfrannu at dîm AberSailBot yr adran ym Mhencampwriaeth Hwylio Robotig y Byd. Mae'n enghraifft wych o rai o'r myfyrwyr godidog sydd gennym yn yr adran hon, ac rydym yn dymuno pob hwyl iddo â'r wobr hon.”
Cynhelir Seremoni Wobrwyo Myfyrwyr Israddedig y Flwyddyn brynhawn heddiw (ddydd Gwener 22 Ebrill) yn Canary Wharf, Llundain. Bydd y myfyrwyr ar y rhestrau byrion yn cael cyfle unigryw i rwydweithio a chiniawa gyda recriwtwyr graddedigion cyn i enwau'r buddugwyr gael eu cyhoeddi gan y gyflwynwraig deledu Fiona Bruce, sy'n cyflwyno'r seremoni wobrwyo.