Canolfan y Celfyddydau i lwyfannu Saturday Night Forever yng Ngwyl Fringe Caeredin

08 Ebrill 2016

Yn dilyn taith lwyddiannus ddiwedd blwyddyn ddiwethaf, bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, mewn partneriaeth gyda Joio, yn ail-lwyfannu drama’r dramodydd Cymreig Roger Williams, Saturday Night Forever yn COWBARN, yng Ngwyl Fringe Caeredin 2016.

Cyfarwyddir y ddrama gan Kate Wasserberg, Cyfarwyddwraig Artistig a sefydlydd theatr dafarn Caerdydd, The Other Room.

Dyma ail grant Cyngor Celfyddydau Cymru i’r cynhyrchiad dderbyn, yn dilyn grant cynhyrchu i ddatblygu’r ddrama llynedd.

Reid gythryblus trwy fywyd nos Caerdydd yw Saturday Night Foreverwrth i’r dyn hoyw yn Lee dorri i fyny gydag un carwr a phenderfynu peidio â syrthio mewn cariad byth eto.

Pob man o’i gwmpas mae pobl yn yfed gormod, yn dawnsio tan yr oriau mân ac yn cymryd beth y gallant.

Ond pan mae Lee yn derbyn gwahoddiad i barti cynhesu aelwyd ffrind, ymddengys bod popeth ar fin newid, a ‘dyw ond yn cymryd saith awr, potel o fodca a’r diafol ar ei ysgwydd iddo dorri ei addewid a syrthio’n ôl i freichiau edmygwr newydd.  

Am amser byr mae bywyd yn felys, ond ar ôl pob nos Sadwrn daw realiti oer bore dydd Sul, ac fel mae Lee yn darganfod yn greulon, ‘does dim yn para am byth.

Ysgrifennwyd y ddrama gan y dramodydd arobryn Roger Williams, sy’n adnabyddus am ei waith ym maes teledu a theatr. 

Mae ei waith ar gyfer teledu yn cynnwys Tales from Pleasure Beach (BBC2) a enwebwyd ar gyfer gwobr BAFTA, Hollyoaks (C4) a Gwaith/Cartref (S4C).

Yn fwyaf diweddar, ef oedd yn gyfrifol am y gyfres ddrama Tir ar gyfer S4C, ac yn sgil honno fe’i henwebwyd ar gyfer gwobr BAFTA Cymru am ysgrifennwr gorau. 

Enillodd wobr BAFTA Cymru am ei waith ar y gyfres ddrama yn y Gymraeg Caerdydd yn 2010.

Perfformiwyd ei ddramâu ledled y byd, ac mae ef hefyd wedi ysgrifennu dramâu radio ar gyfer Radio 4, Radio Wales a Radio Cymru. 

Cyfarwyddir Saturday Night Forever gan Kate Wasserberg, Cyfarwyddwraig Artistig a sefydlydd theatr dafarn Caerdydd.  Dywed Kate:

“Stori hyfryd, dywyll, ramantus, hynod ddoniol am golli a darganfod serch yw Saturday Night Forever. Defnyddia’r sioe dechnoleg arloesol i greu amgylchedd rhyngweithiol, bywiog ar gyfer yr actor ac mae’n nodweddu trac sain wreiddiol a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth ddawns a recordiadau go iawn o strydoedd nos Caerdydd. Wrth wraidd y cyfan ceir ysgrifennu dewr a disglair gan un o brif dalentau theatraidd Cymru. Stori serch ar gyfer yr oes fodern gyda min rasel - ‘rwyf wrth fy modd yn dod â’r ddrama hon i gynulleidfa newydd.”

Ceir perfformiadau rhagolwg o Saturday Night Forever, gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru, yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd o Orffennaf 27 - 30 cyn iddi ymweld â Gwyl Fringe Caeredin 2016 trwy fis Awst, yn COWBARN.

Am ragor o fanylion a gwybodaeth am docynnau ymwelwch â gwefan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yma.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill gwobrau niferus, yw canolfan gelf fwyaf Cymru a gydnabyddir fel ‘banerlong genedlaethol ar gyfer y celfyddydau’. Mae’n cynnig rhaglen artistig amrywiol, yn cynhyrchu yn ogystal â chyflwyno, ar draws holl ffurfiau’r celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, cyfryngau newydd, a’r celfyddydau cymunedol ac fe’i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu’r celfyddydau.  Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn adran o Brifysgol Aberystwyth ac yn rhan o’r Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol.

AU13116