Arbenigwyr awtistiaeth yn siarad mewn cynhadledd

Trefnwyr a siaradwyr  o’r gynhadledd. Rhes blaen: Mary Rendell, Siân Campion, Louise  Birch, Robyn Steward (cyflwynydd), Amanda Tinker, Melissa Davies. Rhes cefn: Carys James, Non Jenkins, Simon Campion, Sarah Hendrickx (cyflwynydd), John Harrington.

Trefnwyr a siaradwyr o’r gynhadledd. Rhes blaen: Mary Rendell, Siân Campion, Louise Birch, Robyn Steward (cyflwynydd), Amanda Tinker, Melissa Davies. Rhes cefn: Carys James, Non Jenkins, Simon Campion, Sarah Hendrickx (cyflwynydd), John Harrington.

04 Ebrill 2016

Ar ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd ddydd Gwener 1 o Ebrill, cynhaliodd y Brifysgol Gynhadledd Sbectrwm Awtistig undydd mewn partneriaeth â Thîm Awtistiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion.

Roedd y gynhadledd yn gyfle i bobl ar y sbectrwm awtistiaeth, partneriaid, rhieni, perthnasau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau a dysgu.

Meddai John Harrington, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: "Dyma’r drydedd gynhadledd flynyddol mewn partneriaeth â Mary Rendell o'r Tîm Sbectrwm Awtistiaeth Ceredigion, a Gwasnaethau Gofal, Gwarchod a Ffordd o Fyw Cyngor Sir Ceredigion i ni ei chynnal ac roeddem yn falch iawn o allu croesawu pobl i'r Hen Goleg eleni."

Gyda chynadleddwyr o bob rhan o Geredigion, roedd y prif siaradwyr yn cynnwys Sarah Hendrickx a’r darlledwr, arlunydd ac awdur Robyn Steward a fu’n sôn am ei phrofiadau ym myd addysg, o'r ysgol gynradd trwy'r ysgol uwchradd ac ymlaen i addysg bellach ac uwch. Gan ganolbwyntio ar yr hyn y mae angen i staff a chefnogwyr ei wybod er mwyn gwella profiadau a deilliannau addysg i bobl ar y sbectrwm awtistiaeth, soniodd Robyn am yr offer a'r strategaethau sy'n gallu helpu.

Mae gan Sarah Hendrickx, ymgynghorydd arbenigol annibynnol a hyfforddwr mewn Amodau Sbectrwm Awtistiaeth, brofiad personol oes o awtistiaeth, ei effaith meddyliol a chorfforol a sut i fyw gydag ef, ac mae'n rhannu hwn ynghyd â’u harbenigedd broffesiynol. Roedd cyflwyniad Sarah yn canolbwyntio ar fenywod a merched sy'n byw gydag awtistiaeth, ac ar ryw a hunaniaeth.

Ceir mwy o wybodaeth yma.

AU12316