Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos Un Byd
04 Mawrth 2016
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu cyfoeth ac amrywiaeth ei chymuned o fyfyrwyr rhyngwladol rhwng dydd Llun 7fed a dydd Sul 13 o Fawrth.
Mae Wythnos Un Byd, sydd bellach yn ei ail flwyddyn ac sy’n cael ei threfnu gan Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol ag Undeb y Myfyrwyr, yn cydnabod y cyfraniad a wneir gan fyfyrwyr rhyngwladol i Brifysgol Aberystwyth a'r gymuned leol.
Bydd y dathliadau’n dechrau gyda Noson Gala yn Undeb y Myfyrwyr ar nos Lun y 7fed o Fawrth am 7:30 lle bydd myfyrwyr o Tsieina, Malaysia, Ghana, Gwlad Thai, Papua Gini Newydd ac eraill arddangos eu talentau.
Ddydd Iau 10 Mawrth, bydd yn Undeb y Myfyrwyr yn cynnal Ffair y Byd gyda stondinau gan fyfyrwyr, cymdeithasau ac adrannau ac yn cynnig gwybodaeth am y gwledydd o ble y daw’r myfyrwyr rhyngwladol, ynghyd â cherddoriaeth, bwyd a diod, gwisg draddodiadol, cwisiau, sgiliau iaith a chyflwyniadau. Bydd gwobr am stondin orau’r Ffair fydd sydd yn cael ei chynnal rhwng canol dydd 4 y prynhawn.
Bydd dydd Iau hefyd yn gyfle i weld dyddiaduron fideo a chyflwyniadau gan wyth o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth fu’n ymweld â Phrifysgol Yosano yn Japan yn ystod mis Ionawr 2016. Cynhelir y digwyddiad ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol gan ddechrau am 6:30 yr hwyr.
Daw’r ŵyl i ben ar y nos Sul gyda’r Nos Malaysia boblogaidd iawn sy’n cael ei chynnal gan Gymdeithas Malaysia, ac sy'n arddangos amrywiaeth diwylliant Malaysia ac a fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau (drysau'n agor am 6pm).
Bydd cogyddion y Brifysgol hefyd yn cyfrannu at ddathliadau Wythnos Un Byd, gyda gwahanol fwydydd o wahanol ranbarthau a gwledydd ar draws y byd yn cael eu gweini yn Tamed Da.
Dywedodd Rosa Soto, Cynghorwr Myfyrwyr Rhyngwladol gyda'r Swyddfa Ryngwladol: "Mae Wythnos Un Byd yn cynnig llwyfan ar gyfer dod â myfyrwyr rhyngwladol a chartref at ei gilydd i ddathlu’r amrywiaeth y diwylliannau sy'n rhan o Brifysgol Aberystwyth.
Yr wyf yn edrych ymlaen at wythnos fywiog a diwylliannol, ac mae bob amser yn bleser ac yn hwyl cefnogi ein myfyrwyr sy'n gweithio mor galed i wneud Wythnos Un Byd yn llwyddiant.”
AU7016