Enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr ar agor
Logo y GDDAM
19 Chwefror 2016
Mae’r adeg honno o'r flwyddyn wedi cyrraedd eto pan fydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cael y cyfle i enwebu a chydnabod gwaith staff a myfyrwyr y Brifysgol.
Bellach yn eu pumed blwyddyn, mae'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr (SLTAs) yn uchafbwynt yng nghalendr y Brifysgol, gan gydnabod aelodau staff, cynrychiolwyr myfyrwyr ac adrannau eithriadol mewn deg categori.
Mae categori newydd eleni: gwobr am ragoriaeth mewn dysgu a gyfoethogwyd drwy dechnoleg.
Bydd y Gwobrau yn cael eu cyflwyno mewn seremoni fawreddog a gynhelir gan Undeb y Myfyrwyr ac a gefnogir gan y Brifysgol ar nos Wener 22 Ebrill.
Meddai Lauren Marks, Swyddog Addysg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth:
“Rydym yn awyddus i glywed am yr holl ddarlithwyr a thiwtoriaid ysbrydoledig, staff an-academaidd gwych a chynrychiolwyr myfyrwyr rhagorol sydd o gwmpas y Brifysgol. Y llynedd, cawsom dros 1000 o enwebiadau gan fyfyrwyr, yn dweud wrthym am y bobl ddawnus ac ymroddgar a aeth gam ymhellach i wneud eu profiad yma'n wych.”
Ychwanegodd yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro: "Mae hon yn fenter ragorol ar ran Undeb y Myfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn ansawdd ei staff, a pha ffordd well o gydnabod hynny na rhoi cyfle i fyfyrwyr leisio eu barn ar pwy sy'n eu hysbrydoli ac sy’n gwneud eu profiad prifysgol yn Aberystwyth mor arbennig.
Mae’r enwebiadau ar agor ar-lein yn y categorïau canlynol, tan 13 Mawrth.
- Gwobr Addysgu Rhagorol
- Cyfraniad Eithriadol i Fywyd y Brifysgol
- Staff Cymorth y Flwyddyn
- Gwobr am Ragoriaeth mewn Addysg Gymraeg
- Gwobr Athro Ôl-raddedig
- Gwobr am ragoriaeth mewn dysgu a gyfoethogwyd drwy dechnoleg.
- Tiwtor Personol y Flwyddyn
- Goruchwyliwr y Flwyddyn
- Cynrychiolydd Myfyriwr y Flwyddyn
- Adran y Flwyddyn
Gall enwebiadau gael eu cyflwyno ar-lein yma.