Hanesion o fyd teledu: cyflwyno byd natur i’ch ystafell fyw
Yr Fforiwr, Entomolegydd a Cyflwynydd Teledu George McGavin
18 Chwefror 2016
Bydd y fforiwr, yr entomolegydd a’r cyflwynydd teledu George McGavin, a gyflwynodd y gyfres Monkey Planet ar BBC Four, a chyfrannwr cyson i’r One Show yn siarad yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth ar nos Wener 19eg o Chwefror.
Bydd McGavin yn siarad am Hanesion o fyd teledu: cyflwyno byd natur i’ch ystafell fyw.
Cynhelir y ddarlith ym mhrif ddarlithfa bioleg adeilad Edward Llwyd ar gampws Penglais ac yn dechrau am 7 yr hwyr.
Astudiodd McGavin Sŵoleg ym Mhrifysgol Caeredin, ac yna ddoethuriaeth mewn entomoleg yng Ngholeg Imperial yn Llundain.
Mae’n Ymchwilydd Cysylltiol er Anrhydedd yn Amgueddfa Hanes Natur Prifysgol Rhydychen ac Adran Sŵoleg Prifysgol Rhydychen.
Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Linnean a’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, ac mae sawl rhywogaeth o bryfed wedi’u henwi ar ei ôl, a’i obaith yw y byddant yn ei oroesi.