Diweddariad storm Imogen: 18:30 Dydd Llun 8 Chwefror
08 Chwefror 2016
Mae myfyrwyr sy'n byw mewn neuaddau glan môr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gynnes, yn glyd ac yn mwynhau swper am ddim wrth i’r tywydd garw barhau.
Mae tua 300 o fyfyrwyr sy'n byw yn y neuaddau glan y môr yn ogystal â myfyrwyr sy’n byw mewn llety preifat ar lan y môr wedi cael eu hadleoli ac yn derbyn gofal ar hyn o bryd ar Gampws Penglais y Brifysgol lle darperir bwyd a diodydd poeth ar eu cyfer.
Mae myfyrwyr sydd angen cymorth brys yn cael eu cynghori i gysylltu â llinell argyfwng y Brifysgol ar 01970 622900.
Mae'r Brifysgol yn monitro'r sefyllfa ac yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ceredigion ac Adnoddau Naturiol Cymru.
Meddai Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredol: "Rydym wedi gwahodd ein myfyrwyr sy’n byw mewn llety glan môr i gael swper ar gampws Penglais. Rydym yn ymwybodol bod llanw uchel arall ychydig cyn 8 o’r gloch heno ac mae storm Imogen yn parhau i achosi tonnau mawr a gwyntoedd cryfion, felly rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pawb yn saff a diogel."
AU4616