Medal y Pegynau i rewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth

Yr Athro Bryn Hubbard, a dreuliodd 9 wythnos yn ddiweddar yn drilio ar silff iâ Larsen C yn yr Antartig

Yr Athro Bryn Hubbard, a dreuliodd 9 wythnos yn ddiweddar yn drilio ar silff iâ Larsen C yn yr Antartig

08 Ionawr 2016

Dyfarnwyd Medal y Pegynau i’r Athro Bryn Hubbard,  Cyfarwyddwr Canolfan Rewlifeg Prifysgol Aberystwyth.

Mae'r wobr, a gyhoeddwyd heddiw – ddydd Gwener 8 Ionawr 2016, yn cydnabod gwaith yr Athro Hubbard fel "ysgolhaig Pegynol mewn rhewlifeg, daeareg rewlifol a strwythur a mudiant masau iâ".

Mae'r Athro Hubbard yn ymuno â rhestr enwog o dderbynwyr sy'n cynnwys Capten Robert F Scott, Syr Ernest Shackleton, a aeth gyda Scott yn ystod taith 1902-4, a Syr Edmund Hillary a Syr Vivian Fuchs a arweiniodd daith y Gymanwlad ar Draws yr Antarctig yn 1957-8.

Sefydlwyd Medal y Pegynau ym mis Medi 1904 er mwyn cydnabod y rhai aeth ar daith lwyddiannus gyntaf Capten Robert F Scott i'r Antarctig.  Yn y degawdau diweddar mae'r Fedal wedi’i chyflwyno yn bennaf i wyddonwyr sydd wedi bod yn gweithio am gyfnodau hir o amser ac o dan amodau garw er mwyn hyrwyddo gwybodaeth am y rhanbarthau pegynol.

Mae'r Athro Hubbard yn un o dri rhewlifwr sydd â chysylltiadau â Phrifysgol Aberystwyth ac sydd wedi derbyn Medal y Pegynau: yr Athro Michael Hambrey, cyn-gyfarwyddwr y Ganolfan Rewlifeg, a'r Athro Julian Dowdeswell, gyn-bennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae hon yn gamp hynod ac yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’i gyfraniad i’r maes Rhewlifeg. Mae’r Athro Hubbard a'i gydweithwyr yn y Ganolfan Rewlifeg yn gwneud gwaith blaengar er mwyn deall effeithiau newid yn yr hinsawdd ar rai o lefydd mwyaf eithafol a digroeso’r Ddaear, a datblygu'r modelau gwyddonol a fydd yn ein cynorthwyo i ddeall yn well sut mae ein planed yn debygol o ymateb i amgylchedd sy'n fwyfwy cynnes. Mae'n arbennig o galonogol bod aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei gydnabod yn y modd hwn, ac mae’n tanlinellu perthnasedd yr ymchwil a wneir yma i rai o'r materion pwysig sy'n wynebu dynoliaeth.”

Dywedodd yr Athro Hubbard: “Braint o’r mwyaf yw derbyn Medal y Pegynau, sy’n cydnabod yr heriau a phwysigrwydd cynnal ymchwil gwyddonol yn rhanbarthau pegynol ein planed, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth cydweithwyr yn y Ganolfan Rhewlifeg ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl”.

Cafodd Bryn Hubbard eni a'i fagu yn lleol, gan fynychu Ysgol Gynradd Y Borth ac Ysgol Gyfun Penglais cyn mynd i Goleg Crist yn Aberhonddu.

Datblygodd ei ddiddordeb mewn rhewlifeg yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen, lle y dyfarnwyd iddo radd dosbarth cyntaf mewn Daearyddiaeth. Yna aeth ymlaen i Brifysgol Caergrawnt lle cwblhaodd PhD mewn symudiad rhewlif.

Wedi dwy flynedd arall yn astudio hydroleg rhewlif Alpaidd yng Nghaergrawnt, ymunodd yr Athro Hubbard â Phrifysgol Aberystwyth yn 1994 fel darlithydd yn y Ganolfan Rewlifeg a oedd newydd ei sefydlu bryd hynny.

Cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Rewlifeg yn 2010 a dyfarnwyd cadair athro iddo yn 2011. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Ymchwil ar gyfer yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg.

Yr Athro Hubbard yw Prif Olygydd y cyfnodolyn Journal of Geophysical Research ac mae’n aelod 'craidd' o Goleg Adolygu Cymheiriaid Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar fesuriadau o brosesau a ffurfiau rhewlifol, gwaith sy'n mynd ag ef i amgylcheddau mwyaf trawiadol y byd o ran golygfeydd, ond sydd hefyd yn oer. Mae'r rhain yn cynnwys Antarctica, yr Ynys Las, Arctig Canada, Svalbard, Norwy, Periw, a'r Alpau Ewropeaidd.

AU0516