Dathlu bywyd a gwaith y bardd Alun Lewis

Yr Athro April McMahon a chofiannydd Alun Lewis, John Pikoulis

Yr Athro April McMahon a chofiannydd Alun Lewis, John Pikoulis

10 Rhagfyr 2015

Ar ddydd Mercher 9 Rhagfyr cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth a Swyddfa Cymru dderbyniad yn NhÅ· Gwydr yn Llundain i nodi 100 mlwyddiant geni’r bardd Cymreig, Alun Lewis.

Ganwyd Lewis yng Nghwmaman ac mae’n cael ei ystyried yn un o feirdd a chyfansoddwyr rhyddiaith Gymreig bwysicaf yr 20fed ganrif. 

Enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth yn 17 oed, lle bu’n astudio Hanes a chael anrhydedd dosbarth cyntaf, cyn dychwelyd yn ddiweddarach i hyfforddi fel athro.

Ym 1940, ymunodd â’r Peirianwyr Brenhinol a chafodd ei brofiadau o wasanaeth milwrol yn yr India a Burma yn ystod yr Ail Ryfel Byd ddylanwad ffurfiannol ar ei waith.

Cyn ei farwolaeth annhymig wrth wasanaethu yn 1944, mwynhaodd Lewis bedair blynedd o glod llenyddol, ac fe gyhoeddodd gasgliad o gerddi 'Raiders' Dawn’ a stori fer' The Last Inspection'.

Flwyddyn ar ôl ei farwolaeth, rhyddhawyd ail gasgliad o farddoniaeth, ‘Ha! Ha! Among the Trumpets’, ac yna, dair blynedd yn ddiweddarach cyhoeddwyd casgliad o straeon byrion, 'In the Green Tree ' (1948).

Arweiniwyd y derbyniad i ddathlu canmlwyddiant ei eni gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon, â chofiannydd Lewis, John Pikoulis yn bresennol.

Dywedodd yr Athro April McMahon: "Rydym yn falch iawn o’r cyfle i gynnal y digwyddiad hwn ar y cyd â Swyddfa Cymru a’r cyhoeddwr Seren Books. Mae'n gwbl briodol fod y digwyddiad hwn yn gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth a bod ein cydweithwyr yn Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol yn cyd-noddi'r noson.

"Roedd cysylltiad Alun Lewis ag Aberystwyth a’r Brifysgol yn un cryf. Fe'i ganed yng Nghwmaman, ger Aberdâr, ar 1 Gorffennaf 1915 a bu'n astudio Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, fel ag yr oedd bryd hynny, yn y 1930au, a chyhoeddodd ei straeon cyntaf yng nghylchgrawn y coleg, Y Ddraig. Ar ôl graddio gyda gradd Dosbarth Cyntaf yn 1935, aeth Lewis i Brifysgol Manceinion astudio hanes canoloesol fel myfyriwr ol-raddedig cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1937 i hyfforddi fel athro."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb: "Roedd Alun Lewis yn un o awduron mwyaf pryfoclyd a thalentog ei genhedlaeth. Daw ei fyfyrdodau ar fywyd a'r amser a dreuliodd yn y lluoedd arfog yn fyw drwy gyfrwng ei farddoniaeth a’i ryddiaith, sy’n parhau i gael eu hastudio gan bobl ledled y byd.

"Mae canmlwyddiant ei eni yn gyfle i ddod â'i waith pwysig i'r amlwg unwaith eto ac i'w fwynhau gan genedlaethau i ddod."

AU39615