Stormydd a’r llifogydd 'digyffelyb' yn fwy cyffredin nag yr ydym yn meddwl

Yr Athro Mark Macklin

Yr Athro Mark Macklin

09 Rhagfyr 2015

Gallai'r llifogydd ' digyffelyb' a welwyd yng ngogledd-orllewin Lloegr yn ddiweddar fod yn fwy cyffredin nac a gredir ar hyn o bryd yn ôl rhybudd gan wyddonwyr.

Mae tîm o arbenigwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Caergrawnt a Glasgow, wedi defnyddio cofnodion hanesyddol er mwyn adeiladu llun cliriach o lifogydd.

Maent wedi dod i’r casgliad nad yw digwyddiadau llifogydd yn yr 21ain ganrif megis Storm Desmond yn eithriadol nac yn ddigyffelyb o ran amlder na maint, a bod modd gwella rhagolygon llifogydd drwy gynnwys data o waddodion llifogydd sy’n dyddio nôl cannoedd o flynyddoedd.

Dywedodd Dr Tom Spencer o Brifysgol Caergrawnt: “Yn Nhŷ'r Cyffredin (Llun 7 Rhagfyr), disgrifiodd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd y llifogydd yng ngogledd-orllewin Lloegr fel digwyddiad 'digyffelyb' ac un a oedd 'yn gyson â thueddiadau newid yn yr hinsawdd'. Ond a yw hyn yn wir mewn gwirionedd?”

"Ni all dulliau confensiynol o ddadansoddi cofnodion llif ateb y cwestiynau hyn gan nad oes cofnodion o lefelau dŵr ar gyfer dalgylchoedd yr ucheldir yn bod yn aml, neu maent yn bodoli am gyfnodau byr iawn o rhwng 30 neu 40 mlynedd. Yn wir, mae dadansoddiad gwyddonol gofalus diweddar o ddyddodion palaeo-lifogydd yn ucheldiroedd y Deyrnas Gyfunol (Foulds a Macklin, 2015 *) yn dangos nad yw llifogydd yr unfed ganrif ar hugain yn ddigynsail o ran eu hamlder (roeddent yn amlach cyn 1960) a maint (gwelwyd y digwyddiadau mwyaf yn ystod yr 17eg - 19eg ganrif)."

Dywedodd yr Athro Mark Macklin o Brifysgol Aberystwyth, arbenigwr mewn llifogydd afonydd ac effeithiau newid hinsawdd:  “Mae cofnodion dogfennol a gwaddodion llifogydd sy’n ymestyn dros gannoedd o flynyddoedd yn awgrymu nad yw’r llifogydd hyn yn ddigyffelyb, ac mae hynny’n golygu ein bod yn tan amcangyfrif yn ddifrifol y perygl o lifogydd ac yn peryglu bywydau pobl.”

 “Mewn rhai ardaloedd, mae’r llifogydd diweddar wedi bod yn gydradd neu’n fwy na’r digwyddiadau mwyaf a gofnodwyd mewn hanes a gellir eu priodoli i amrywioldeb yn yr hinsawdd mewn systemau tywydd ar ymylon yr Iwerydd.

“Mae'n destun pryder bod data hanesyddol yn awgrymu bod llawer mwy o gapasiti yn system hinsawdd Gogledd yr Iwerydd i gynhyrchu cyfnodau gwlyb a hirach o lifogydd nag a brofwyd hyd yma yn yr 21ain ganrif. Wrth edrych ymlaen, mae’r tebygolrwydd uwch o eithafion tywydd oherwydd newid hinsawdd yn golygu bod yn rhaid ymestyn ein cofnodion llifogydd drwy ddefnyddio gwyddoniaeth geomorffoleg a’i wneud yn ganolog i asesiad perygl llifogydd yn y Deyrnas Gyfunol."

Mae’r Athro Mark Macklin yn dadlau bod angen mabwysiadu dulliau newydd o ddadansoddi risg llifogydd, o'r ucheldir i'r arfordir, sy'n cynnwys cofnodion o offer mesur, dogfennau ac yn bwysicaf oll palaeo-lifogydd.

"Mae’r ffyrdd cyfredol o ddefnyddio dadansoddiad amlder llifogydd ac asesiad perygl o lifogydd yn seiliedig ar gofnodion llif dros 40-50 mlynedd, cyfnod sy’n llawer byrrach nag oes dylunio y rhan fwyaf o strwythurau peirianneg a dulliau cynllunio perygl llifogydd strategol. Nid ydynt yn addas at y diben yn awr, heb sôn am hinsawdd sy’n newid."

Mae’r Athro Mark Macklin yn Athro Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Athro Geomorffoleg Afonydd ym Mhrifysgol Massey, Seland Newydd.

*Foulds, S.A., Macklin, M.G. (2015) A hydrogeomorphic assessment of 21st Century floods in the UK. Earth Surface Processes and Landforms. DOI: 10.1002/esp.3853 http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/esp.3853/abstract

AU39315