Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi cynlluniau i roi’r gorau i’r swydd yn 2016
04 Rhagfyr 2015
Penodwyd yr Athro April McMahon i’w rôl fel Is-Ganghellor am dymor o bum mlynedd ym mis Awst 2011. Mae'r Athro McMahon wedi hysbysu Canghellor Prifysgol Aberystwyth ei bod yn dymuno rhoi’r gorau i’r swydd ar ddiwedd ei thymor ym mis Gorffennaf 2016.
Meddai’r Athro McMahon: “Ar ôl dwys ystyried, rwyf wedi penderfynu na fyddaf yn ceisio adnewyddu fy nghytundeb ar ddiwedd fy nhymor o bum mlynedd. Rwyf yn hynod o falch o'r gwaith rwyf wedi'i gyflawni gyda chymaint o bobl eithriadol yn rhoi Prifysgol Aberystwyth yn gadarn ar y llwybr i gynaliadwyedd yn y dyfodol. Mae wedi bod ac yn parhau i fod yn bleser ac yn fraint i wasanaethu ac arwain y Brifysgol arbennig hon, i weithio drwy'r anawsterau y bu'n rhaid i ni eu hwynebu, ond hyd yn oed yn bwysicach oll, i annog pawb i ddathlu ein llwyddiannau niferus.
“Cafwyd llawer iawn o’r llwyddiannau hynny yn ddiweddar, ac felly rwy’n teimlo'n hyderus iawn fod y Brifysgol bellach yn gadarn ar y trywydd cywir, gan olygu mai dyma’r amser priodol i rywun arall i ddod ac arwain y cam nesaf, a chaniatáu i mi ystyried fy mlaenoriaethau a chyfleoedd nesaf.
“Byddaf yn parhau i fod yn Is-Ganghellor tan ddiwedd mis Gorffennaf, ond gwnaf y cyhoeddiad hwn yn awr er mwyn caniatáu trosglwyddo trefnus a chynllunio ar gyfer olyniaeth. O ran y trosglwyddo, mae’r Canghellor a minnau wedi cytuno y byddaf o fis Chwefror ymlaen yn canolbwyntio ar agweddau allanol rôl yr Is-Ganghellor ac edrychaf ymlaen at flaenoriaethu amrywiaeth o brosiectau allweddol gan gynnwys gwaith datblygu a chyn-fyfyrwyr.”
Meddai Canghellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones-Parry: “Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Is-Ganghellor am ei chyfraniadau cadarnhaol i Brifysgol Aberystwyth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac am ddangos ystyriaeth wrth roi rhybudd cynnar am ei bwriad fel y gallwn sicrhau’r trosglwyddo gorau posibl. Yn bersonol, ac ar ran y Cyngor, dymunaf bob llwyddiant iddi yn y dyfodol.
“Yn ystod ei chyfnod yn Aberystwyth, dangosodd yr Is-Ganghellor ei gallu chwim i ymdopi'n dda â'r newidiadau cyflym oedd eu hangen yn Aberystwyth yn erbyn amgylchedd allanol anodd. Roedd hyn yn cynnwys ailstrwythuro gweithrediadau academaidd y Brifysgol yn Athrofeydd er mwyn datganoli arweinyddiaeth a chyfrifoldeb ariannol; a gwella tryloywder llif gwybodaeth i'r Cyngor.
“O dan ei harweiniad, mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu Cynllun Strategol uchelgeisiol gyda pherchnogaeth eang o fewn y Brifysgol ac wedi datblygu gweledigaeth ar gyfer buddsoddi yn y Stâd, a gwell cydnabyddiaeth a gwobrwyo am addysgu yn ogystal ag ymchwil. Mae'r strategaethau hyn bellach yn arwain at adfer safle'r Brifysgol yn y tablau cynghrair sector prifysgol. Yn wir, dengys cyhoeddiadau diweddar ar ddatblygiad y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu fod arweinyddiaeth April i ail-osod bri ar addysgu yn un graff - ynghyd â pherfformiad cryf iawn yn REF2014, golyga hyn fod y Brifysgol mewn lle da ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.
“Rydym wedi cytuno, er mwyn i'r Brifysgol wneud y defnydd gorau o ddoniau ac arbenigedd yr Is-Ganghellor yn ystod y cyfnod sy’n weddill, y bydd hi’n canolbwyntio ar gyflawni ymrwymiadau allanol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn ystod gwanwyn 2016. Er mwyn ei galluogi i wneud hynny, ac i roi’r hyblygrwydd angenrheidiol iddi, rhaid i ni hefyd sicrhau bod y dyletswyddau mewnol yn cael eu cyflawni. Felly, bydd y Cyngor yn mynd ati i benodi Is-Ganghellor dros dro ar gyfer y gwaith mewnol o 1 Chwefror 2016, a sefydlu Pwyllgor Penodi i chwilio am Is-Ganghellor newydd i ymuno â ni o 1 Awst yn 2016 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.”
AU38815