Cyhoeddi hanes ystafell ddarllen i ferched yn llyfrgell Cork Carnegie
Helen McGonagle
03 Rhagfyr 2015
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Helen McGonagle, cynfyfyrwraig ôl raddedig, dysgu o bell mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell lyfr newydd, A Room of Their Own – Cork Carnegie Free Library and its Ladies’ Reading Room 1905-1915.
Mae'r llyfr, sy'n seiliedig ar draethawd hir ei chwrs Meistr yn Aberystwyth yn rhoi cipolwg ar fywydau merched yn ninas Cork yn ystod y cyfnod trawsnewidiol 1905-1915, cyfnod o obaith a chyffro mawr yn Iwerddon gyda’r iaith Wyddeleg, cenedlaetholdeb, Merched y Bleidlais a Llafur i gyd yn mynnu newid cymdeithasol a gwleidyddol.
Meddai Helen McGonagle: "Ar ôl cyflwyno fy nhraethawd a gydag anogaeth Liam Ronayne, Llyfrgellydd Dinas Cork, es ati i barhau gyda fy ymchwil ar Adroddiadau Blynyddol Llyfrgell a Ystafelloedd Darllen y Merched. Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Carnegie UK ces afael ar eu copïau o'r ohebiaeth rhwng yr Arglwydd Faer o Cork a'r dyngarwr Albanaidd Dr. Andrew Carnegie, sy'n cwmpasu'r cyfnod 1901-1905.
“Mae'r ffeil hynod ddiddorol yn cynnwys copïau o lythyrau, telegramau, cynlluniau adeiladu, areithiau ac adroddiadau papur newydd o'r cyfnod ac ynghyd â’r Adroddiadau Blynyddol roeddent yn sail i fy llyfr. A Room of their Own, Cork Carnegie Free Library and its Ladies Reading Room, 1905-1915.
“Mae'r llyfr yn amlinellu datblygiad Llyfrgell Rydd Carnegie o'r cais cyntaf am gyllid a wnaed gan yr Arglwydd Faer Edward Fitzgerald i Andrew Carnegie yn Hydref 1901 hyd agoriad swyddogol yr adeilad ym mis Medi 1905. Byrdwn y llyfr yw’r drafodaeth ar Ystafell Ddarllen y Merched yn y llyfrgell gyda manylion am y gwahanol ferched oedd yn defnyddio’r llyfrgell, sut roedd y llyfrgell yn darparu ar gyfer y defnyddwyr hynny a'r math o ddeunydd roeddent yn ei ddarllen.
Meddai Hugh Preston o Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth, "Mae'r Adran yn falch iawn bod un o'i myfyrwyr ôl-raddedig wedi datblygu ei hymchwil gradd Meistr i gynhyrchu monograff gydag effaith sylweddol ar y ddealltwriaeth o ddatblygu presenoldeb diwylliannol merched ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae brwdfrydedd Helen yn dangos ehangder y diddordebau sydd gan y myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yma yn Aberystwyth.
Ychwanegodd Liam Ronayne, Llyfrgellydd Dinas Cork; "Mae llyfr Helen McGonagle yn gyfraniad unigryw i hanes llyfrgelloedd Gwyddelig a rhyngwladol, ac yn gyfraniad gwerthfawr iawn i hanes cymdeithasol a diwylliannol dinas Cork, lle a fyddai’n datblygu i fod yn ganolog ym mrwydr Iwerddon dros annibyniaeth, ychydig flynyddoedd ar ôl y cyfnod y mae gwaith Helen McGonagle yn ei drafod. Mae Llyfrgelloedd Dinas Cork yn falch iawn o gyhoeddi llyfr Helen, ac rydym oll yn falch iawn bod aelod o'n staff wedi cyflawni’r fath gamp.”
Treuliodd Helen McGonagle 10 mlynedd cyntaf ei gyrfa yn gweithio yn Llundain, i ddechrau fel ysgrifenyddes gyfreithiol, cyn ymgymryd â rôl rheoli yn yr adran cylchrediad y cyhoeddwyr cylchgronau cerddoriaeth, Cyhoeddiadau Gramophone. Ar ôl iddi ddychwelyd i Iwerddon yn 1998, treuliodd y naw mlynedd nesaf adref gyda'i theulu ifanc, gan gwblhau MA mewn Astudiaethau Merched ym Mhrifysgol Dinas Cork cyn ymuno â Llyfrgelloedd Dinas Cork yn 2007.
Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf mae wedi gweithio mewn nifer o adrannau a changhennau o'r llyfrgell, ac ar hyn o bryd mae i’w gweld yn Adran Fenthyg y Llyfrgell Ganolog.
Mae'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn Aberystwyth yn ddarparwr blaenllaw o gymwysterau ôl-raddedig ac israddedig ar gyfer y proffesiwn gwybodaeth. Y flwyddyn nesaf byddant yn dathlu 30 mlynedd o ddarpariaeth dysgu o bell.
AU38715