Yr Athro Ted Hopf i draddodi Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz
Yr Athro Ted Hopf
02 Rhagfyr 2015
Bydd yr Athro Ted Hopf, ffigwr blaenllaw byd-eang mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, yn traddodi Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz ar nos Iau 3ydd Rhagfyr am 6 yr hwyr.
Cynhelir y ddarlith gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar y cyd â chyfnodolyn International Relations yn y Brif Neuadd yn Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Ted Hopf, ar hyn o bryd yn Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Genedlaethol Singapore, yn un o'r cyfranwyr mwyaf gwreiddiol a blaenllaw i ddamcaniaethu lluniadaethol am gysylltiadau rhyngwladol. Yn benodol, mae ei waith yn pwysleisio ffynonellau domestig o ffurfio hunaniaeth wladwriaeth. Mae'r dull hwn yn herio esboniadau systemig ('realaidd') o ymddygiad polisi tramor a dealltwriaethau sy'n canolbwyntio ar bersonoliaeth (hanes diplomyddiaeth).
Mae ei waith empirig yn cynnwys ymchwil manwl i hanes Sofietaidd ac ôl-Sofietaidd Rwsia. Ymhlith ei gyhoeddiadau niferus, sy’n arddangos gwybodaeth ragorol o theori a hanes, mae ei lyfrau Reconstructing the Cold War: the Early Years, 1945-1958 (y cyntaf o driawd sy’n ymwneud â chyfnod y Rhyfel Oer, a Social Construction of International Politics: Identities and Foreign Policies, Moscow 1955 and 1999.
"Mae Ted Hopf yn cynnig cyfrif empirig cyfoethog o hunaniaethau cymdeithasol a'u heffaith ar y polisïau tramor Sofietaidd /Rwsia. Ei nod yw ail-greu hunaniaethau a ffurfiodd disgyrsiau a strwythurau gwybyddol cymdeithasol. Mae’n awgrymu chwilio ar y lefel o gymdeithas yn y cartref ac felly yn ymwneud yn fwy â deunydd (iau) sy'n ffurfio strwythurau gwybyddol cymdeithasol nag â pholisïau tramor penodol. Nid yw hyn yn ddull cyffredin o fewn y ddisgyblaeth, ond gellir ei gyfiawnhau gan y canlyniadau y mae Hopf yn eu cyflwyno ", meddai Dr Jan Ruzicka o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am lyfr Hopf, Social Construction of International Politics.
AU38615