Robyn Munn yn ymuno â phanel beirniaid gwobrau Tir na n-Og
Chwith i’r Dde: Joanna Jeffery,Cymrawd Dysgu, Prifysgol Aberystwyth, Robyn Munn ac Elwyn Jones, Prif Weithredwr, Cyngor Llyfrau Cymru
01 Rhagfyr 2015
Mae Robyn Munn, myfyrwraig Addysg a Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi’i dewis i ymuno â phanel beirniaid gwobrau llyfrau plant Tir na n-Og 2016.
Enillodd Robyn gystadleuaeth i gael bod yn feirniad myfyrwyr ar y panel ar gyfer y llyfr Saesneg gorau i blant sydd wedi ei leoli yng Nghymru.
Cynhelir Gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Robyn: “Mae'n teimlo fel y Nadolig. Mi fydd yn waith caled ond rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau ar y darllen.”
Dyma'r ail flwyddyn i fyfyriwr o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes gystadlu am le fel beirniad ar y gystadleuaeth hon.
Derbyniwyd ceisiadau cryf ar gyfer y gystadleuaeth, yn dilyn ymweliad gan Anwen Francis, awdur llyfrau Siani Shetland a Swyddog Hyrwyddo Darllen a Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru, a chyngor gan Jordan Thorpe, y myfyriwr a oedd yn feirniad llynedd ac sy'n astudio Mathemateg ac Addysg.
Gwahoddwyd myfyrwyr ar y modiwlau Llythrennedd mewn Plant Ifanc a Literacy in Young Children i gyflwynol adolygiad o lyfr, gan ddefnyddio Canllawiau Cyngor Llyfrau Cymru.
Roedd Joanna Jeffery, sy'n cydlynu’r modiwlau, wrth ei bodd gyda dyfnder y dadansoddi a dwyster teimlad a ddangoswyd gan y myfyrwyr yn eu ceisiadau.
Beirniad y ceisiadau gan y myfyrwyr oedd Dr Liz Jones, Cydlynydd Ysgrifennu Creadigol ar gyfer Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Dr Jones yn ei beirniadaeth: “Mae'r cais hwn yn cyfleu brwdfrydedd gwirioneddol am lenyddiaeth plant, yn ogystal â phrofiad fel awdur. Mae'r adolygiad yn drylwyr ac yn sensitif ac yn ein gadael gyda disgrifiad byw o'r modd y byddai'r llyfr yn edrych ac yn teimlo. Mae’n gais trawiadol.”
Cyflwynodd Mr Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, ddetholiad o'r llyfrau y bydd angen iddi werthuso cyn i’r panel llunio rhestr fer yn cyfarfod yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd Mr Jones: "Mae gennym fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd ar y panel beirniadu Cymraeg ac rydym yn falch ein bod yn gallu parhau i weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth er mwyn dod o hyd i feirniad ar gyfer y panel Saesneg."
Bydd y beirniadu ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2016 yn dechrau ym mis Ionawr 2016. Cyhoeddir yr enillwyr yng nghynhadledd Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru ym Mehefin 2016.
AU34915