Cwmnïau'n cael rhagolwg ar gynlluniau campws arloesi a menter

Lleoliad arfaethedig Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yng Ngogerddan

Lleoliad arfaethedig Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yng Ngogerddan

27 Tachwedd 2015

Cynhaliwyd digwyddiad ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar yn trafod Cyllid ac Adnoddau ar gyfer Arloesi, ac yn rhoi cipolwg cynnar i gwmnïau ar y gwaith sy'n cael ei wneud i ddefnyddio buddsoddiad gwerth £40.5m i wireddu'r weledigaeth am gampws newydd ar gyfer Arloesi a Menter - AIEC.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar 19 Tachwedd, ac fe ddaeth mwy na 30 o wahanol gwmnïau, yn amrywio o gynhyrchwyr bwyd lleol, i fusnesau technoleg amaeth rhyngwladol.  Rhoddodd gyfle i'r cynadleddwyr gael rhagolwg ar sut y gallai'r datblygiadau arfaethedig hyn eu helpu a'u cefnogi â'r cynlluniau sydd ganddynt i ddatblygu eu busnesau.

Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac un o'r prif amcanion oedd rhannu gwybodaeth am sut y gallai cyfuniad o ragoriaeth wyddonol, yr adnoddau diweddaraf oll, a phecynnau ariannu newydd yrru gwaith arloesol a thwf yn y diwydiannau bwyd, iechyd, biodechnoleg a thechnoleg amaeth.  Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i'r cynadleddwyr gael dweud eu dweud am y ddarpariaeth arfaethedig er mwyn sicrhau y bydd ganddi'r potensial gorau posib i hybu gweithgarwch menter a masnach yn y dyfodol.

Roedd y siaradwyr yn cynnwys Huw Watkins, Cyfarwyddwr Prosiect AIEC a roes fraslun o'r cyfleoedd i hwyluso twf busnesau yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth, a'r Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Ymchwil yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth a roes ddiweddariad ar Strategaeth Ymchwil IBERS. Cafwyd cyflwyniadau hefyd gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, a roes wybodaeth am y rhaglen SMART ar gyfer ariannu arloesi yng Nghymru.

Daeth y digwyddiad i ben â sesiwn holi ac ateb, yn rhoi'r cyfle i'r cynadleddwyr godi unrhyw gwestiynau llosg a sbardunwyd gan weithgareddau'r bore hwnnw.  Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Huw Watkins:"Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ers cael y buddsoddiad tua blwyddyn yn ôl, ac roeddem yn teimlo ei bod hi'n bryd inni rannu peth o'r wybodaeth honno â'r cwmnïau sy'n debygol o elwa o'r prosiect.  Hwn oedd y cyntaf o lawer o ddigwyddiadau tebyg a gynhelir i godi ymwybyddiaeth ac annog cwmnïau i ymuno yn gynnar â'r prosiect".

Ychwanegodd Dr Jonathan Hughes o Pennotec, a ddaeth i'r digwyddiad, "gallai campws AIEC, gyda phopeth ar un safle, feithrin cyswllt agosach rhwng cwmnïau technoleg werdd a chynhyrchwyr a defnyddwyr yn ein sectorau bwyd-amaeth ac iechyd".

Mae'r braslun ar gyfer y Campws Arloesi a Menter yng Ngogerddan ar gyrion Aberystwyth wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol gan Fwrdd y Prosiect a bydd y camau nesaf yn cynnwys gwaith pellach ar y dylunio, cael caniatâd cynllunio a dewis prif gontractwr.  Bwriedir cynnal digwyddiad ar gyfer y gadwyn gyflenwi yng ngwanwyn 2016.

Ariannwyd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru; gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol) a chan Brifysgol Aberystwyth.

Mae un o adeiladau presennol safle Gogerddan eisoes wedi'i adnewyddu i safon uchel ac mae'n darparu dros 300m2 o le sydd ar gael i'w logi ar gyfer swyddfeydd.  Mae'r safle wedi'i foderneiddio ar gyfer cwmnïau sy'n awyddus i symud yn nes at y rhagoriaeth ymchwil sy'n arwain y byd a wneir gan wyddonwyr yn IBERS.

Yn Rhagfyr 2014, cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ei bod wedi cael buddsoddiad gwerth £20m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru, yn ogystal â gwerth £12m o fuddsoddiad gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC), ac £8.5m o gronfeydd y Brifysgol.

AU38015