Cyngres Flynyddol Geriatreg a Gerontoleg y Byd
Yr Athro John Williams
24 Tachwedd 2015
Bydd yr Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn traddodi darlith yng Nghyngres Flynyddol Geriatreg a Gerontoleg y Byd sydd i'w chynnal yn Kaohsiung yn Taiwan yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Thema'r Gyngres yw mynd i'r afael â'r her fyd-eang a ddaw yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio. Sut y gall gwladwriaethau unigol a'r gymuned ryngwladol ymateb i’r llu o heriau a ddaw yn sgil hyn?
Bydd yr Athro Williams yn trafod sut y gall dyluniad cartrefi gofal effeithio ar allu pobl hŷn i fwynhau hawliau dynol sylfaenol. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod, yr hawl i fywyd teuluol, i gartref ac urddas. Bydd yn trafod rôl pensaernïaeth a dylunio wrth hyrwyddo a diogelu hawliau dynol grŵp sy’n aml yn agored iawn i niwed mewn cymdeithas.
Mae Cyngres Geriatreg a Gerontoleg y Byd yn hyrwyddo datblygiad gerontoleg fodern ac iechyd, lles a gofal cymdeithasol i’r henoed. Mae'r Gyngres yn fforwm uchel ei pharch ar gyfer cyfnewid yr ymchwil diweddaraf ym maes gerontoleg a diwydiannau perthnasol o bob un o'r pum cyfandir a chwe rhanbarth cefnforol y byd.
Bydd mwy na 200 o arbenigwyr byd-enwog, academyddion, uwch wyddonwyr, swyddogion o ddiwydiant ac arweinwyr prosiect o bob cwr o'r byd yn dod at ei gilydd i drafod y gwaith ymchwil, gweithredu, a mentrau polisi sy'n angenrheidiol ar gyfer gwella ansawdd bywyd pobl hŷn.
Mae'r Athro Williams yn un o dîm o ymchwilwyr yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwythsy’n edrych ar heneiddio. Yn ddiweddar derbyniodd y Ganolfan ar gyfer Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeulustod grant o £890,000 gan y Loteri Fawr i gynnal ymchwil i gyfiawnder a cham-drin yr henoed .
Yn 2012, penodwyd yr Athro Williams i Grŵp Arbenigol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol Pobl Hŷn. Mae wedi cynghori Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar y ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol newydd yng Nghymru, ac mae'n gweithio'n agos gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a nifer o gyrff anllywodraethol.
Dywedodd yr Athro Williams: 'Mae'n fraint fawr derbyn gwahoddiad i fod yn un o’r prif siaradwyr yn y gynhadledd bwysig fyd-eang hon. Yng Nghymru, mae goblygiadau poblogaeth sy'n heneiddio yn gymhleth. Fodd bynnag, ni ddylem fyth ystyried y ffaith bod pobl yn byw yn hirach fel problem. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ddathlu. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu gweld mewn unrhyw drafodaeth am hawliau dynol a bod eu cyfraniadau i gymdeithas, yn ogystal â'u hanghenion, yn cael eu hadlewyrchu yn y gyfraith genedlaethol a rhyngwladol. Ni ellir diystyried pwysigrwydd diogelu hawliau dynol pobl hŷn mewn lleoliadau gofal. Nid yn unig y mae hyn yn golygu eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod, ond mae hefyd yn ofynnol i ni sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol yn parchu ac yn cefnogi eu hawliau.'
Cynhelir y Gyngres rhwng y 26-28th Tachwedd 2015.
AU35415