Gwobr y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig i’r Athro Paul Ghuman

Yr Athro Emeritws Paul Ghuman

Yr Athro Emeritws Paul Ghuman

24 Tachwedd 2015

Yr Athro Emeritws Paul A. Singh Ghuman o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yw enillydd Gwobr Hyrwyddo Cyfle Cyfartal y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig am 2015.

Ymunodd yr Athro Ghuman â’r Brifysgol yn 1971 ac fe'i penodwyd yn Bennaeth yr Adran Addysg yn 2000, swydd y bu ynddi tan ei ymddeoliad yn 2003.

Mae'r wobr, a roddir gan Bwyllgor Moeseg y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig, yn cydnabod person y mae ei waith fel seicolegydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at herio anghydraddoldeb cymdeithasol yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae ymchwil yr Athro Ghuman wedi canolbwyntio ar addysg plant lleiafrifol, ac wedi cynnwys: addasiad cymdeithasol ac addysgol pobl ifanc Asiaidd yn y DG, Gogledd America ac Awstralia; arferion magu plant teuluoedd Punjabi; dwyieithrwydd plant o Gymru a’u datblygiad gwybyddol; a sefyllfa anodd Sikhiaid Bhattra yng Nghaerdydd.

Arweiniodd gyfarfod ar hap gyda rhiant Dalit ym Mirmingham at y darn o’i waith a ddenodd glod yn fwy nag un arall; ei ymchwil i addasiad cymdeithasol ac addysgol plant Dalit, grŵp o bobl y cyfeiriwyd atynt unwaith fel yr Anghyffyrddadwy (Achute) yn India, sy'n wynebu anffafriaeth gan Asiaid o gast uwch a hiliaeth gan y gymdeithas ehangach.

Denodd ei waith, British Untouchables: A study of Identity and Education adolygiadau da iawn gan gyfnodolion cenedlaethol a chefnogaeth cymdeithasau Dalit yn y DG am ei ymdrechion i ddwyn i sylw'r cyhoedd rhagfarn cast a disgrimineiddio ymhlith Asiaid.

Dywedodd y cyfnodolyn, y British Journal of Educational Studies y dylid llongyfarch yr Athro Ghuman am ymgymryd â menter o’r fath gan y gallai fod wedi arwain at iddo gael ei wrthod gan y cymunedau yr oedd yn eu hastudio.

Dywedodd yr Athro Jamie Hacker Hughes, Llywydd y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig: "Mae’r Gymdeithas Seicolegol Brydeinig yn ystyried y Wobr Cydraddoldeb Cyfle yn un o'n gwobrau pwysicaf gan ei bod yn cyfuno cydnabyddiaeth o ragoriaeth academaidd ar y cyd â’r defnydd ymarferol ohoni. Dyma union sail dyfarnu’r wobr hon i’r Athro Paul Ghuman, am ei waith ar leiafrifoedd Asiaidd a’r system cast, a’r dylanwad potensial sylweddol ar bolisi cyhoeddus a  deddfwriaeth”.

Dywedodd yr Athro Ghuman: “Rwyf wrth fy modd bod y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig wedi cydnabod fy nghyfraniad i hyrwyddo cyfle cyfartal ym meysydd 'rhyw' a 'cast' o fewn cymunedau Asiaidd, a 'hil' yn ehangach. Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i fy nghyn-fyfyrwyr, fy nghydweithwyr a Phrifysgol Aberystwyth, sydd wedi cynnal fy niddordeb am dros 45 mlynedd”.

Mae’r Athro Ghuman wedi ei wahodd i Gynhadledd Flynyddol 2016 y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig i draddodi darlith yno i nodi’r wobr ac i dderbyn tystysgrif goffaol.

AU36515