Aberystwyth ymhlith y 50 uchaf o brifysgolion yn ôl prif gyflogwyr y Deyrnas Gyfunol

18 Tachwedd 2015

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith y 50 prifysgol orau yn y DG am "y graddedigion gorau ar gyfer y gweithle" yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan y Times Higher Education (THE) ar ddydd Iau'r 12fed o Dachwedd.

Mae'r canfyddiad hwn yn seiliedig ar astudiaeth o gyflogwyr yn y DG o’r sectorau busnes, technoleg gwybodaeth a pheirianneg yn bennaf, ac yn gysylltiedig gyda chyhoeddi'r Global Employability University Survey 2015.

Dyluniwyd yr arolwg gan Emerging, cwmni o ymgynghorwyr ym maes adnoddau dynol o Ffrainc, a gwnaethpwyd y gwaith gan Trendence, cwmni ymchwil i'r farchnad o’r Almaen, a gofynnwyd i gyflogwyr  mewn cwmnïoedd mawr yn y DG i bleidleisio dros y prifysgolion lle maent yn hoffi i ddod o raddedigion.

Nododd cyflogwyr o’r DG taw'r wybodaeth  bwysicaf pan yn recriwtio graddedigion yw 'sgiliau penodol', 'profiad proffesiynol' a 'maes arbenigedd'.

Wrth nodi o ba brifysgolion i recriwtio, adnabu cyflogwyr DG y 'cysylltiadau â chwmnïau', ‘arbenigedd mewn un maes cymhwysedd' a 'chynhyrchu graddedigion sy'n barod i'r gwaith' fel y tair nodwedd bwysicaf.

Yn ôl y Times Higher Education, mae'r "canlyniadau yn arbennig o berthnasol gan eu bod yn rhoi rhyw syniad o ran y gwerth am arian tymor hir y gwahanol brifysgolion yn y DG, ar adeg pan mae'r toriadau i grantiau cynhaliaeth yn rhoi mwy o bwysau nag erioed ar fyfyrwyr i ystyried eu dyfodol ariannol ".

AU36815