Gwobr dyngarwch i gyn-fyfyriwr o Aberystwyth
(Chwith i'r dde) Cyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth Dr Martin Price, Cathy Piquemal, Dr Hywel Ceri Jones, Steve Lawrence, yr Athro April McMahon, Stuart Owen-Jones, Dr Susan Davies, Louise Jagger a Kay Powell yn dathlu dyfarnu Gwobr Dyngarwch y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i’r cyn-fyfyriwr a’r cymwynaswr Peter Hancock.
16 Tachwedd 2015
Dyfarnwyd Gwobr Dyngarwch y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i’r cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, Peter Hancock.
Cafodd y wobr ei chyflwyno yn noson Derbyniad a Gwobrau'r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ar nos Fawrth y 10fed o Dachwedd.
Gan nad oedd Peter Hancock, sy'n byw yn Seland Newydd, yn medru bod yn bresennol, derbyniwyd y wobr ar ei ran gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Ym mis Hydref, ariannodd Peter a’i gymar Pat Pollard (ne Trevitt) sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, gronfa ysgoloriaeth newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, mewn diolch am ysgoloriaeth a ddyfarnwyd iddo ef 50 mlynedd yn ôl, pan oedd yn fyfyriwr yma.
Caiff yr ysgoloriaeth, a sefydlwyd gyda rhodd o £506,000, ei hadnabod fel Cronfa Ysgoloriaeth Angen a Theilyngdod Peter Hancock, a bydd yn agored i ‘fyfyrwyr haeddiannol, disglair mewn angen ym Mlwyddyn 2 Anrhydedd neu gyfwerth, mewn unrhyw ddisgyblaeth ac o unrhyw genedl ac sy'n dangos potensial i fod o fudd i gymdeithas drwy gwblhau eu Graddau Anrhydedd neu gyfwerth yn llwyddiannus.'
Ar adeg sefydlu’r gronfa, dywedodd Peter: "Yr elfen allweddol drwy gyflwyno’r rhodd hon yw rhoi rhywbeth yn ôl i fywyd myfyriwr ac i’r Brifysgol a roddodd, hanner canrif yn ôl gymaint i mi yn academaidd, yn gymdeithasol ac o ran datblygu fy sgiliau arweinyddiaeth a busnes. Ar yr un pryd, rwy’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth drwy ddarparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr addawol, sydd mewn angen er mwyn eu galluogi i ddechrau gyrfaoedd gwerth chweil sy'n cyfrannu at gymdeithas ac felly, yn eu tro, yn helpu pobl eraill."
Yn ei hanerchiad yn y noson Wobrwyo dywedodd yr Athro April McMahon: "Braint o’r mwyaf yw cael bod yma gyda chydweithwyr a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth, i dderbyn Gwobr Dyngarwch y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar ran y cyn-fyfyriwr, cymwynaswr a chyfaill, Peter Hancock.
"Mae Peter yn hynod o glir mai un o'i brif gymhellion wrth sefydlu'r gronfa hon yw annog pobl eraill i roi. Mae'n credu yn gryf fod yr yrfa broffesiynol ac ariannol lwyddiannus y mae wedi mwynhau fel peiriannydd a daearegydd wedi bod yn bosibl oherwydd ysgoloriaeth a ddarparwyd drwy’r Brifysgol. Heb yr ysgoloriaeth, ni fyddai wedi medru cwblhau gradd er anrhydedd - a dyma’r rheswm pam bod y Gronfa yn canolbwyntio ar gynorthwyo myfyrwyr yn ei hail flwyddyn i orffen eu graddau yn llwyddiannus.
"Mae geiriau Peter yn ysbrydoli, a gwn bod ein myfyrwyr yn teimlo hyn hefyd. Ar ben hyn oll, mae ei rodd yn cyd-fynd yn dda iawn â blaenoriaethau’r Brifysgol, sef llwyddiant myfyrwyr, rhagoriaeth, a gweithio i gefnogi a chadw myfyrwyr o nifer o gefndiroedd gwahanol.
"Yr wyf yn diolch i chi am gydnabod haelioni ac uchelgais Peter a Pat; ac mae’n bleser mawr gennyf ar ran Prifysgol Aberystwyth, dderbyn y Wobr Dyngarwch i Peter Hancock."
AU36215