Y Rhamantwyr Meintiol: Technoleg arloesol sy’n dweud wrthym (ac eraill) beth rydym wir yn ei ‘deimlo’...
![Yr Athro Richard Marggraf Turley (chwith) o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a’r myfyriwr ymchwil Cyfrifiadureg Tom Blanchard yn paratoi i fesur effaith nofelau a darluniau Gothig 200 mlwydd oed ar bobl.](/cy/news/archive/2015/11/Quantified-Romantics-web-b.jpg)
Yr Athro Richard Marggraf Turley (chwith) o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a’r myfyriwr ymchwil Cyfrifiadureg Tom Blanchard yn paratoi i fesur effaith nofelau a darluniau Gothig 200 mlwydd oed ar bobl.
11 Tachwedd 2015
Efallai y byddai wedi bod wrth fodd Byron, yn destun difyrrwch i Syr Walter Scott a chwilfrydedd i JMW Turner.
Un peth yw llunio barddoniaeth a rhyddiaith sy’n llifo, a phaentio golygfeydd lliwgar llawn emosiwn, ond pa effaith mae hyn yn ei gael ar y darllenydd neu’r gwyliwr?
Yn awr, diolch i gydweithrediad creadigol a fyddai wedi creu argraff ar bob un ohonynt, mae dau Athro o Brifysgol Aberystwyth wedi cyfuno’r Mudiad Rhamantaidd â gwyddoniaeth gyfrifiadurol yr 21ain ganrif i ddarganfod yn union hynny.
Arbrawf yw’r ‘Rhamantwyr Meintiol’ (Quantified Romantics) a allai gael oblygiadau pellgyrhaeddol i bopeth o’r diwydiant hysbysebu i ffasiwn a Facebook.
Ar ddydd Sadwrn 14 Tachwedd, fel rhan o'r ŵyl genedlaethol 'Being Human', bydd y rhamantydd Richard Marggraf Turley a’r gwyddonydd cyfrifiadurol Reyer Zwiggelaar yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd.
Mewn gofod tywyll pwrpasol, ‘Y Trobwll’, bydd aelodau o’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i edrych ar ddelweddau wedi eu taflunio o beintiadau gothig a darnau allan o nofelau Rhamantaidd tra bod data biometrig yn cael eu casglu gan ddefnyddio breichledau sydd wedi eu creu yn benodol at y pwrpas. Gobaith y ddau yw adnabod ‘effaith’ delweddau a geiriau o’r fath ar y gynulleidfa gyfoes.
Esbonio Marggraf Turley: “Y nod yw archwilio rhai o'r agweddau mwyaf diddorol o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol yn y byd modern. A yw nofelau gothig wir yn cyffroi’r galon, fel y bydau eu hawduron Rhamantaidd yn hawlio? A yw paentiadau o geudyllau anferthol, creaduriaid hunllefus, adfeilion abatai mewn coedwigoedd tywyll a chlogwyni creigiog wir yn codi arswyd y gellir ei fesur? Mewn ffordd, mae delweddau o’r fath yn oesol, ac yn cynnig cliw i’n sensitifrwydd cynhenid i rai pethau sy’n tanio ac yn ennyn ymateb emosiynol.”
Cychwynnodd y prosiect chwe blynedd yn ôl pan ddechreuodd Marggraf Turley a Zwiggelaar astudio sut y gallai delweddu thermol gael eu defnyddio i fesur ymateb emosiynol person drwy gyfrwng llenyddiaeth a barddoniaeth.
Mae pethau wedi symud ymlaen, i freichledau clyfar. System gymhleth o synwyryddion sy’n monitro symudiad, curiad y galon, tymheredd a hefyd ansawdd a chyflwr y croen, o un ennyd i’r nesaf.
Fel y noda Zwiggelaar, mae'r prosiect yn dangos nid yn unig lle mae celf a gwyddoniaeth yn cwrdd, ond hefyd sut y gall cyfuno dau faes arwain at ganlyniadau hynod ddiddorol.
“Rydym yn byw mewn byd emosiynol 'supercharged' lle mae pobl yn profi symbyliadau heriol ac emosiynol drwy bob math o gyfryngau, o’r cymdeithasol i ffilm a cherddoriaeth, a hynny yn gyson. Ar yr un pryd, mae llawer ohonom hefyd yn hapus i rannu a datgelu ein teimladau ac emosiynau mewn ffordd nad oedd yn bosib tan ddyfodiad Facebook a Twitter, ac nac oedd wir yn dderbyniol. Faint o hyn sy’n ddilys? Rydym yn byw ac yn symud mewn byd o rith, ond efallai hefyd o dwyll. Rydym yn dangos sut y gall y defnydd o dechnolegau penodol ddatgelu ein gwir ymateb a theimladau, weithiau hyd yn oed i ni ein hunain.”
Ond does gan Zwiggelaar ddim amheuaeth ynghylch pŵer y dechnoleg. “Drwy ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd fel hyn, a mesur ymateb pobl i ddelweddau Rhamantaidd, gallwn ddatblygu ein technoleg mewn sefyllfa go iawn.
“Y gwir yw ein bod ni fel pobl yn rhagweladwy iawn - mae'n anhygoel pa mor rhagweladwy ydym ni. Er enghraifft, ar Facebook, pan fydd rhywun yn dweud sut maen nhw'n teimlo am eu hunain neu rywun arall, petai gennych ddyfais a oedd yn dangos eu gwir deimladau, gallai hynny fod yn ddiddorol. Byddai goblygiadau amlycach o fewn y byd ffasiwn neu hysbysebu lle gallai busnesau a dylunwyr fesur effaith eu cynnyrch.’
Ychwanega Marggraf Turley: “Mae’r digwyddiad hefyd yn codi cwestiynau hynod ddiddorol am ein rhagdueddiad i gyfarwyddo a synhwyro o bell. Ydyn ni wir eisiau bod mor dryloyw i gorfforaethau a hysbysebwyr? A ydym yn gyfforddus i ganiatáu dyfeisiau mesur biometrig i mewn i’r rhan fwyaf preifat o’n bydoedd - y synhwyrau?
“Mae biometreg yn cynnig gwerth gwirioneddol, ac i’r rhai sy'n dymuno "gwella" eu hunain, mae argaeledd eang technoleg hunan-fesur yn beth da. Ond mae yna ochr dywyll, byd holl-weladwy parhaus a gwyliadwriaeth ochrol. Byddwn yn trafod y pwnc mwyaf amserol hwn yn ein digwyddiad "Quantified Romantics". “
Cynhelir Quantified Romantics rhwng 11:00 a 15:00 ar ddydd Sadwrn 14 Tachwedd yn Amgueddfa Ceredigion, Ffordd y Môr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AQ. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â museum@ceredigion.gov.uk.
Mae ‘Quantified Romantics’ yn rhan o ‘Being Human’, gwyl gyntaf Prydain ym maes y Dyniaethau sy’n cael ei chynnal rhwng y 12fed a’r 22ain o Dachwedd 2015, ac yn cael ei chefnogi gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a'r Academi Brydeinig (BA), gyda chefnogaeth gan y Wellcome Trust.
AU18915