£898k i IBERS i gynhyrchu tanwydd gwyrdd ynghynt
Michal Mos Pennaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg Terravesta yn dangos plwg miscanthus wedi ei dyfu o had yn barod i’w blannu.
24 Medi 2015
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan allweddol mewn prosiect gwerth £1.8 miliwn i ddatblygu'r dechnoleg angenrheidiol i blannu'r cnwd ynni miscanthus o hadau.
Fel rhan o brosiect a arweinir gan Terravesta Assured Energy Crops ac a ariannwyd gan Agri-Tech Catalyst, bydd tîm o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ymchwilio i sut i greu’r amodau gorau ar gyfer cynhyrchu hadau, gan dreialu nifer o fathau newydd i archwilio eu cynnyrch a'u haddasrwydd ar gyfer amodau’r Deyrnas Gyfunol.
Mae miscanthus yn blanhigyn gyda choesyn sydd yn debyg i wellt sy'n tyfu 2-3 metr o uchder mewn blwyddyn, yn cael ei gynaeafu yn y gwanwyn ac yn tyfu'n ôl o'r gwreiddiau i gynhyrchu cnwd blynyddol.
Gall dyfu yn dda ar dir sydd yn llai addas ar gyfer cnydau bwyd, a defnyddir y cnwd wedi ei gynaeafu ar hyn o bryd ar gyfer bio-ynni, sef gwres a phŵer, ac i’r dyfodol fel defnydd crai ar gyfer y bio-economi sydd yn datblygu. Mae galw y DG am biomas i gynhyrchu trydan ar hyn o bryd yn fwy na 5 miliwn tunnell y flwyddyn, ac mae 75% yn cael ei fewnforio.
Mae'r dull presennol o blannu miscanthus yn defnyddio rhannau o wraidd a elwir yn rhisomau wedi eu cloddio o blanhigion miscanthus eraill, ond mae hyn yn cyfyngu faint y gellir eu plannu yn flynyddol.
Mae plannu miscanthus gan ddefnyddio hadau yn caniatáu i ardaloedd plannu’r cnwd gynyddu 200 gwaith yn gyflymach, a thrwy hynny gynnig cyfraniad sylweddol i ofynion y farchnad a lleihau dibyniaeth ar fewnforion.
Mae'r prosiect a enwir yn Miscanthus Upscaling Technology (MUST) yn anelu i ddeall sut i gynyddu cynhyrchu hadau miscanthus (o hybridiau addawol sydd wedi eu bridio hyd yma), a chreu gwybodaeth am arfer gorau tyfu a chynaeafu sydd yn fasnachol berthnasol fel y gall mwy o'r cnwd gael ei dyfu yn y DG a chreu diwydiant newydd o fudd i ffermwyr a'r economi wledig.
Dr John Clifton Brown sydd yn arwain y prosiect yn IBERS ac mae’n hyderus yn nyfodol y cnwd hwn. Mae'n disgrifio'r prosiect, pa effaith a gaiff ar y diwydiant amaethyddol, ac yn y pen draw, y goblygiadau ar gyfer lleihau allyriadau CO2 y DG.
“Rydym yn awr yn datblygu hybridau sy'n seiliedig ar hadau yma i gyflymu'r broses plannu ac yn ystod y prosiect ymchwil hwn, bydd gwyddonwyr IBERS yn datblygu dulliau i gynyddu cynhyrchu hadau gan ddefnyddio pedair safle treialu ar draws y DG," meddai John.
"Mae miscanthus yn tarddu o Asia, a gyda chymorth Defra a’r BBSRC (Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol), rydym wedi treulio'r 10 mlynedd diwethaf yn ei ddatblygu yn gnwd y gellir ei dyfu gan ffermwyr yn y DG a all gyflenwi'r galw cynyddol am fiomas yma.
"Bydd nifer o ddulliau cynaeafu yn cael eu harchwilio i wneud y mwyaf o ansawdd a maint cnydau. Y nod cyffredinol yw datblygu systemau newydd ar gyfer amaethyddiaeth sy’n seiliedig ar miscanthus er mwyn cynyddu proffidioldeb ac felly yn galluogi trosi'r hyn sydd yn gnwd arbenigol heddiw, i mewn i system gyflenwi biomas ar raddfa fawr,” meddai.
“Mae angen i'r DG leihau allyriadau CO2 er mwyn lliniaru newid yn yr hinsawdd, ac mae angen hefyd i ni ddatblygu ein heconomi i fanteisio ar dechnolegau gwyrdd yn hytrach na dibynnu ar stoc gyfyngedig o danwydd ffosil,” ychwanega John.
Mae'r Catalydd Tech-Amaeth yn cefnogi ymchwil ar y cyd rhwng gwyddonwyr a busnesau i sbarduno prosiectau o'r labordy i'r farchnad.
Mae'r Catalydd Amaeth-Tech £70 miliwn yn cael ei ariannu gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, a'r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol.
Mae'r Catalydd Amaeth-Tech cael ei redeg gan Innovate UK a'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol.
Hyd yma cyhoeddwyd 52 o brosiectau Catalydd Amaeth-Tech gwerth £43m, £ 30 miliwn gan Lywodraeth y DG a £ 13m o ddiwydiant.
Mae'r Catalydd Amaeth-Tech yn ffurfio rhan o Strategaeth Technolegau Amaethyddol y DG - cynllun tymor hir, a buddsoddiad o £160m llywodraeth y DG, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â diwydiant, i adeiladu ar gryfderau sector technolegau amaethyddol yn y DG
IBERS
Cydnabyddir yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil ac addysgu sy’n cynnig sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, bioynni a chynaladwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol mewn bioleg o lefel genynnau a moleciwlau eraill, i effaith newid hinsawdd.
Mae IBERS yn derbyn £10.5m o gyllid ymchwil strategol gan y BBSRC i gefnogi ymchwil tymor hir sy’n cael ei arwain gan genhadaeth, ac mae’n aelod o’r Athrofeydd Biowyddoniaeth Cenedlaethol. Mae IBERS hefyd yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.
AU31815