Aberystwyth yn codi’n sylweddol yn nhabl cynghrair y QS World University Rankings
Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth
15 Medi 2015
Mae Prifysgol Aberystwyth yn safle 52 yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl tabl diweddaraf y QS World University Rankings a gyhoeddwyd heddiw, ddydd Mawrth 15 o Fedi.
Yn gyffredinol, mae'r Brifysgol wedi dringo hyd at 149 o safleoedd o fod ymysg y 601-650 uchaf yn 2014/5 i fod ymysg y 501-550 uchaf ar gyfer 2015/6.
Ac mae mwy o newyddion da mewn meysydd perfformiad allweddol. Gwelwyd cynnydd yn Enw Da Academaidd ac Enw Da Cyflogwyr, a chynnydd hefyd yn y categorïau Cyfadran Myfyrwyr a Cyfadran Ryngwladol.
Bu cynnydd sylweddol hefyd yn y nifer o weithiau y cyfeirir at waith academaidd gan academyddion o Aberystwyth mewn cyhoeddiadau eraill - mae hyn yn dilyn canlyniad rhagorol y Brifysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2014.
Bellach mae Aberystwyth ymysg y 401-450 gorau am Enw Da Academaidd ac Enw Da Cyflogwr, Cyfadran Myfyrwyr a Chyfadran Ryngwladol, a Nifer y Dyfyniadau. Yn y categorïau Cyfadran Ryngwladol a Myfyrwyr Rhyngwladol, mae Aberystwyth yn safle 229 a 271 yn y Byd.
Croesawyd y tabl cynghrair diweddaraf gan yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Rhyngwladol. Meddai: “Mae'r gwelliant sylweddol hwn yn y tabl cynghrair rhyngwladol yn cyfiawnhau gwaith caled ein myfyrwyr a'n staff yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn ein hymrwymiad i lwyddiant myfyrwyr a rhagoriaeth ymchwil."
Yn gynharach eleni, cafodd pump o bynciau Prifysgol Aberystwyth eu cynnwys ymysg y gorau yn y Byd gan y QS World University Rankings - un yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.
Ymddangosodd Gwyddor yr Amgylchedd yn y 300 uchaf am y tro cyntaf, tra bod Gwleidyddiaeth (Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol o 2015) wedi dringo i'r 150 uchaf. Parhau yn y 150 uchaf oedd hanes Daearyddiaeth ac Amaethyddiaeth a Choedwigaeth tra bod Iaith a Llenyddiaeth Saesneg wedi cadw ei statws ymhlith y 300 uchaf yn y Byd.
AU30415