Rhaglenwyr iPhone ac Apple Watch yn ymgasglu'n Aberystwyth

02 Medi 2015

Bydd cannoedd o raglenwyr iPhone o ar draws y byd yn ymgasglu yn Aberystwyth wythnos nesaf (7-10 Medi) i glywed arbenigwyr rhyngwladol ar adeiladu meddalwedd ar gyfer yr iPhone ac Apple Watch.

Mae’r dref glan môr yn safle annisgwyl ar gyfer canolfan datblygu meddalwedd uwch, ond mae Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn arweinydd mewn hyfforddi ac annog cwmnïau i ddefnyddio’r dechnoleg.

Disgrifiodd un o gyfranogwyr llynedd y gynhadledd fel “criw o ddatblygwyr hoffus ar gampws Prifysgol ger arfordir prydferth Cymru …ac mae’n anhygoel!” 

Gan fod y mwyafrif o ddatblygwyr yn teithio yno ar y trên, dywedodd cyfranogwr arall, “mae hyn yn arwain at grynhoad o bobl, oll yn dal yr un trên fel fersiwn geek o’r Hogwarts Express.”

Ar ôl cyrraedd Aberystwyth, mae’r cyfranogwyr yn mynychu cyflwyniadau a thiwtorialau gan arbenigwyr ar bynciau yn cynnwys Apple Watch, cynlluniau iPhone cwmnïau fel Facebook, ac iaith cyfrifiadur newydd Apple, Swift.

Crynhowyd atyniad Aberystwyth i ddatblygwyr gan Paul Freeman, un o gyfranogwyr llynedd. Dywedodd: “Siŵr o fod y gynhadledd orau dwi erioed wedi ei mynychu yn ystod fy mywyd meddalwedd, cyfeillgar ac yn llawn dop o bobl hael a thalentog”, ac mae datblygwyr eleni yn dod o wledydd ar draws y byd gan gynnwys Unol Daleithiau America, Rwsia, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen a 14 o wledydd eraill.

Cynhelir iOSDevUK 5 ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng dydd Llun 7fed a dydd Iau 10fed Medi 2015.

Ceir mwy o wybodaeth am y digwyddiadau, siaradwyr ac amserau ar wefan y gynhadledd http://www.iosdevuk.com/.

AU28315