Dydd Llun ar Stondin Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod

03 Awst 2015

Lansio Ap Mentro Meifod , ‘Allwch chi gredu’ch llygaid?’ a’r ‘Gwyll: Cynhyrchu, Creadigrwydd, Cyfleoedd’ yw’r tri digwyddiad ar stondin Prifysgol Aberystwyth heddiw.

1.00yp
Lansio Ap Mentro Meifod
Bydd y cyflwyniad cyntaf am 1.00yh gyda lansiad “Ap Mentro Meifod”, wrth i Eiri Angharad o Adran y Gymraeg sgwrsio am “Deithiau Cerdded ym Mro’r Eisteddfod”:

Fel rhan o raglen ymchwil MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ei hariannu’n bennaf gan KESS (Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Gwybodaeth), mae Eiri o Bontypridd wedi cydweithio gyda chwmni Geosho o Gaernarfon i ddatblygu ap i’w chyhoeddi yn yr Eisteddfod. Bydd yr ap — a fydd ar gael yn rhad ac am ddim, ac yn y ddwy iaith — yn arwain cerddwyr o fan i fan ac yn caniatáu iddynt gyrchu dwy'r ffôn bytiau difyr am lên a hanes y llefydd hynny.

Meddai Eiri: “Gobeithio y bydd yr ap yn helpu pobl i ddod i nabod bro'r Steddfod yn well. Yn y cyflwyniad Ddydd Llun byddaf yn trafod beth a’m hysgogodd i fynd ati, a'r profiad o ymchwilio a chreu ap gyda chwmni blaengar Geosho.”

2.00yp
Allwch chi gredu’ch llygaid?
Am 2.00yh bydd Dr Rachel Rahman o’r Adran Seicoleg yn gofyn y cwestiwn a yw popeth a welwn gyda’n llygaid yn wir, yn y sesiwn “Allwch chi gredu’ch llygaid?”:

“Faint y gallwn ymddiried yn yr hyn a welwn? Mae angen i'n hymennydd gwneud synnwyr o lawer iawn o wybodaeth gydag ychydig iawn o amser i wneud hynny. Felly, sut mae ein hymennydd yn dweud wrthym beth y gallwn weld, ac a ellir ei dwyllo?! Bydd y cyflwyniad hwn yn archwilio sut mae seicoleg wybyddol yn cynnig gweithfeydd y system canfyddiad gweledol a beth allwn ni ei ddysgu o rithiau a ffenomen weledol.”

3.30yp
Y Gwyll: Cynhyrchu, Creadigrwydd, Cyfleoedd
Bydd tîm cynhyrchu “Y Gwyll” ac aelodau staff yr adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnal trafodaeth ar y gyfres dditectif llwyddiannus wedi ei selio yn Aberystwyth am 3.30yh.  Ymysg y rhai yn cymryd rhan yn y drafodaeth bydd:

  • Gethin Scourfield – Cynhyrchydd y gyfres a chyn-fyfyriwr yn Adran Hanes Prifysgol Aberystwyth.
  • Gwawr Martha Lloyd – Golygydd Drama S4C ac Uwch-Gynhyrchydd y gyfres, a chyn-fyfyrwraig MA Astudiaethau Teledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Ceri Perkins - Cydlynydd y Cynhyrchiad a chyn-fyfyriwr MA Sgriptio yn y Brifysgol.
  • Dr Kate Woodward – Darlithydd yn adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.
  • Alaw Gwyn Rossington – Myfyrwraig MA Cyfryngau Creadigol Ymarferol sydd wedi gweithio ar y gyfres.


4.30yp
Seremoni’r Coroni
I gloi dydd Llun, estynnir croeso cynnes i bawb i wylio seremoni’r Coroni ar y sgrin fawr dros baned o de neu goffi.

Am raglen lawn o ddigwyddiadau ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod a’r Gororau 2015 cliciwch yma.

AU21815