Aberystwyth yn mynd â Mawrth i Meifod
(Chwith i’r Dde) Aelodau o dîm crwydrwr ExoMars Rover Prifysgol Aberystwyth, Dr Laurence Tyler, Dr Matt Gunn a Dr Rachel Cross, gydag eitemau o galedwedd aerofod sydd wedi eu datblygu ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer taith ofod 2018.
31 Gorffennaf 2015
Bydd fersiwn raddfa gyfan o wyneb y Blaned Mawrth a drych ‘hunlun’ sydd wedi ei gynllunio ar gyfer taith ofod ExoMars 2018 yr Asiantaeth Ofod Ewrop yn rhan o arddangosfa wyddoniaeth sydd wedi ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod rhwng 1 a 8 Awst.
Mae’r model o’r Blaned Mawrth, sydd hefyd yn cynnwys fersiwn raddfa fwy o’r crater Gale - yr ardal mae crwydryn ‘Curiosity’ NASA yn ei astudio ar hyn o bryd, wedi ei adeiladu gan wyddonwyr gofod yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth gan ddefnyddio data o MOLA, y Mars Orbital Laser Altimeter.
Mae’r tîm o Aberystwyth, dan arweiniad Dr Matt Gunn, yn adeiladu drych 'hunlun' ar gyfer y daith, Drych Arolygu’r Crwydrwr (Rover Inspection Mirror RIM), a fydd yn galluogi'r ExoMars Rover i gymryd lluniau o’i hun petai’n cael ei ddifrodi.
Mae’r drych hunlun yn un o dair eitem o ‘galedwedd aerofod’ sydd wedi eu datblygu gan dîm Aberystwyth ar gyfer y daith yn 2018, a bydd ar arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Bydd ymwelwyr â'r stondin hefyd yn gallu rheoli a rhaglennu robotiaid bychain ar gyfer crwydro ar draws tirwedd Mawrth, a chael lluniau o’u hunain wedi eu tynnu gyda chamera panoramig, fel pe baent mewn gwirionedd yn sefyll ar y blaned goch.
Dywedodd Dr Matt Gunn, sy'n arbenigwr mewn offeryniaeth ac opteg: “Bydd y gwaith yr ydym yn ei wneud yma yn Aberystwyth yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant gwaith delweddu’r daith ofod a chaiff ei ddefnyddio gan offer a ddatblygwyd ar gyfer y daith gan wyddonwyr o’r Deyrnas Gyfunol, Rwsia a'r Swistir. Mae'n wych i allu dangos peth o'r gwaith hwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol a hyrwyddo'r ymchwil gofod rhagorol sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru.”
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi bod yn ymwneud ag archwilio'r gofod ers blynyddoedd. Cafodd y gwaith o ddatblygu a graddnodi braich roboteg y glaniwr Beagle2 yn 2003 ei wneud gan ymchwilwyr yn Aberystwyth, ac mae'r gwaith hwnnw wedi bod yn sail i gyfranogiad cyfredol Aberystwyth tuag at daith ofod ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewrop yn 2018.
Mae'r gwaith hwn hefyd yn hysbysu cyfleoedd astudio yn yr Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gynnwys y radd Gwyddor y Gofod a Roboteg BSc sy'n cyfuno arbenigedd mewn ffiseg cysawd yr haul a’r gofod gyda roboteg y gofod a deallusrwydd artiffisial.
Am restr lawn o ddigwyddiadau ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Maldwyn a’r Gororau cliciwch yma.
AU25115