Gwlân – Prifysgol Aberystwyth ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Yr artist Ruth Jên gyda darn o’i gwaith sydd wedi ei ysbrydoli gan nodau clust defaid

Yr artist Ruth Jên gyda darn o’i gwaith sydd wedi ei ysbrydoli gan nodau clust defaid

30 Gorffennaf 2015

Bydd yr artist Ruth Jên o Dalybont yng Ngheredigion yn trafod ei gwaith diweddaraf ‘Gwlân’ mewn sgwrs gyda’r darlledwr Dei Tomos ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ar fore Mawrth 4 Awst am 11 o’r gloch.

Mae Ruth, sy’n adnabyddus am ei chyfres o ddarluniau o fenywod Cymreig, newydd gwblhau gradd MA mewn Celf yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Canolbwynt ei gwaith yw traddodiadau cneifio a nodau clust ffermydd mynydd yng Ngogledd Ceredigion, ac yn benodol fferm Gwenffrwd sydd rhwng Penrhyncoch a Phonterwyd, yng nghysgod mynydd Disgwylfa.

Cafodd ei hysbrydoli gan y traddodiad o wneud carthenni gwlân yn Nhalybont, pentref a fu unwaith yn ganolfan wehyddu o bwys, ac ers tair blynedd bu’n dogfennu’r gwaith o nodi clustiau’r ŵyn a diwrnod cneifio a’r traddodiadau cymdeithasol sy’n glwm gyda’r digwyddiadau hynny.

Bydd ffilm 5 munud o’i gwaith sy’n canolbwyntio ar symudiadau’r cneifiwr wrth gneifio, i’w gweld ar stondin Prifysgol Aberystwyth drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.

Mewn adolygiad o’r gwaith gan Catrin M S Davies, a gyhoeddwyd yn y papur bro lleol, Papur Pawb, dywedodd: “Yr hyn sy’n gyffrous am y gwaith diweddara yw bod Ruth, nid yn unig wedi cofnodi, ond wedi mynd ati i ddathlu’r arferion ac i roi statws celfyddydol i elfennau o fywyd pob dydd ffermwyr defaid.  Carfan o bobl sydd yn aml yn anweledig ac yn annealladwy i drigolion dinasoedd a threfi ond y mae dyrchafu gwaith a bywyd pobol felly yn ddwfn yn y gwaith .”

Am restr lawn o ddigwyddiadau ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Maldwyn a’r Gororau ewch i http://www.aber.ac.uk/cy/eisteddfod/.

AU24715